Cylchred dŵr
symudiad parhaus H2O ar y Ddaear, ynddi ac o dan wyneb y Ddaear / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r cylchred dŵr, a elwir hefyd yn gylchred hydrolegol neu ar lafar yn gylch dŵr, yn gylch bio-daear-gemegol, sy'n disgrifio symudiad parhaus dŵr ar y Ddaear, uwchben y Ddaear ac o dan wyneb y Ddaear. Mae màs y dŵr ar y Ddaear yn parhau i fod yn weddol gyson dros y milenia, ond mae rhannu'r dŵr i brif gronfeydd o iâ, dŵr croyw (dŵr tap, dŵr afonydd a llynnoedd ayb) dŵr hallt (dŵr gyda halen) a dŵr atmosfferig yn amrywiol, ac yn dibynnu ar ystod eang o newidynnau hinsoddol. Mae'r dŵr yn symud o un gronfa ddŵr i'r llall, megis o'r afon i'r cefnfor, neu o'r cefnfor i'r atmosffer, trwy brosesau ffisegol: anweddu, cyddwyso, dyodi, ymdreiddiad (infiltration), dŵr ffo ar yr wyneb, a llif is-wyneb (tanddaearol). Wrth wneud hynny, mae'r dŵr yn mynd trwy wahanol ffurfiau: hylif, solid (iâ) ac anwedd.
Math | cylch biogemegol |
---|---|
Rhan o | hydroleg |
Yn cynnwys | anweddiad, cyddwyso, fall of precipitation, ymdreiddiad, dŵr ffo ar yr wyneb, llif o dan yr wyneb |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r cylchred dŵr yn cynnwys cyfnewid egni, sy'n arwain at newidiadau mewn tymheredd. Pan fydd dŵr yn anweddu, mae'n cymryd egni o'i amgylch ac yn oeri'r amgylchedd. Pan mae'n cyddwyso, mae'n rhyddhau egni ac yn cynhesu'r amgylchedd. Mae'r cyfnewid gwres yma yn dylanwadu ar hinsawdd y Ddaear.
Mae anweddu yn puro dŵr sydd wedyn yn ailgyflenwi'r tir â dŵr croyw (trwy dyodiad). Mae llif dŵr sydd ar ffurf hylif a rhew yn gwagaru mwynau ledled y byd. Mae hefyd yn ymwneud ag ail-lunio nodweddion daearegol y Ddaear, trwy brosesau gan gynnwys erydiad a gwaddodiad. Ystyrir fod y cylchred dŵr hefyd yn hanfodol ar gyfer cynnal y rhan fwyaf o fywyd ac ecosystemau ar y blaned.