Cylch cytiau caeedig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Math o Gytiau'r Gwyddelod carreg sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd[1] ydy cylch cytiau caeedig. Cychwynnwyd eu codi tua 1,500 C.C. a daethant i ben tua'r adeg y daeth y Rhufeiniaid i Ynys Prydain. Mae archaeolegwyr wedi canfod fod llawer o'r cytiau cynharaf wedi eu codi ar ben hen gytiau pren a safodd yno cyn hynny.[2]
Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau a meini hirion.