![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/a/ae/RWC_2011_FC_Land_Pos.png/640px-RWC_2011_FC_Land_Pos.png&w=640&q=50)
Cwpan Rygbi'r Byd 2011
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd Cwpan Rygbi'r Byd 2011 yn Seland Newydd rhwng 9 Medi a 23 Hydref 2011. Dyma oedd y seithfed tro i Gwpan Rygbi'r Byd cael ei gynnal a'r tro cyntaf i Seland Newydd gynnal y gystadleuaeth ar eu pen eu hunain - cynhaliwydl Cwpan Rygbi'r Byd 1987 ar cyd rhwng Seland Newydd ac Awstralia.
Ipu o te Ao Whutupōro 2011 | |
---|---|
![]() | |
Manylion y gystadleuaeth | |
Cynhaliwyd | ![]() |
Dyddiadau | 9 Medi – 23 Hydref |
Nifer o wledydd | 20 |
Safleoedd | |
Pencampwyr ![]() | ![]() |
Ail ![]() | ![]() |
Trydydd ![]() | ![]() |
Manylion twrnament | |
Gemau | 48 |
Torf | 1,477,294 (30,777 y gêm) |
Prif sgoriwr(wyr) | ![]() |
Nifer fwyaf o geisiau | ![]() ![]() (6 chais) |
← 2007 2015 → |
Dechreuodd y broses o gyrraedd Seland Newydd ar 29 Mawrth 2008 wrth i Mecsico drechu Saint Vincent a'r Grenadines 47-7 yng ngemau rhagbrofol y Caribî[1] a daeth y gystadleuaeth i ben ar 23 Hydref wrth i Seland Newydd drechu Ffrainc 8-7 yn y rownd derfynol ym Mharc Eden, Auckland a thorri eu henwau ar y tlws am yr ail dro.
Roedd y canlyniad yn golygu mai dyma'r trydydd tro i'r gystadleuaeth gael ei hennill gan y tîm cartref wedi i Seland Newydd ennill ym 1987 a De Affrica ym 1995.