![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2f/Tryweryn_-_hen_bentref_Capel_Celyn_yn_dod_i%2527r_golwg%253B_submersed_village_and_graveyard_appears_during_drought_Aug_2022_22.jpg/640px-Tryweryn_-_hen_bentref_Capel_Celyn_yn_dod_i%2527r_golwg%253B_submersed_village_and_graveyard_appears_during_drought_Aug_2022_22.jpg&w=640&q=50)
Capel Celyn
pentref a foddwyd, yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref ger y Bala yn Sir Feirionnydd yng Nghymru a gafodd ei foddi ym 1965 i greu cronfa ddŵr (Llyn Celyn) ar gyfer trigolion Lerpwl oedd Capel Celyn ( ynganiad ).[1]
- Gweler hefyd: Boddi Tryweryn.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() Mynwent y pentref yn dod i'r golwg yn sychder Awst 2022. | |
Math | pentref dan dŵr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.953°N 3.714°W ![]() |
![]() | |
Cau
Cyn ei foddi roedd yno gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg, gan gynnwys capel, ysgol, swyddfa bost a deuddeg o ffermydd a thir a oedd yn perthyn i bedair fferm arall. Roedd 67 o bobl yn byw yno ac roedd yn un o’r cymunedau uniaith Gymraeg olaf yn yr ardal.