![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9f/Crossfell.jpg/640px-Crossfell.jpg&w=640&q=50)
Cross Fell
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cross Fell (2,930' / 893m) yw mynydd uchaf bryniau'r Pennines yng ngogledd Lloegr. Yn ogystal â bod y pwynt uchaf yn y Pennines, dyma'r copa uchaf yn Lloegr tu allan i Ardal y Llynnoedd. Llwyfandir uchel creigiog yw'r copa, sy'n rhan o gefnen 20 km o hyd sy'n rhedeg o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain, ac sy'n cynnwys hefyd Little Dun Fell (842 m) a Great Dun Fell (849 m). Gyda'i gilydd mae'r copaon hyn yn ffurfio rhes o glogwynni sy'n codi'n syrth uchlaw Dyffryn Eden i'r de-orllewin ond yn disgyn yn llai syrth ar eu llethrau gogledd-ddwyreiniol i gyfeiriad cymoedd Tyne a Tees.
![]() | |
Math | mynydd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | North Pennines ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 893 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 54.7028°N 2.4872°W ![]() |
Cod OS | NY6871834336 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 651 metr ![]() |
Rhiant gopa | Helvellyn ![]() |
Cadwyn fynydd | Pennines ![]() |
![]() | |
Ar ddiwrnod braf ceir golygfeydd gwych o'r cysgodfa ar y copa dros Ddyffryn Eden i fynyddoedd Ardal y Llynnoedd. O lethrau gogleddol Cross Fell ceir golygfeydd da i gyfeiriad Moryd Solway ac ucheldir De'r Alban.