Critérium du Dauphiné
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ras seiclo ffordd flynyddol yw'r Critérium du Dauphiné (a adnabyddwyd fel y Critérium du Dauphiné Libéré cyn 2010), a gystadlir dros wyth cymal yn rhanbarth Dauphiné, Ffrainc yn ystod hanner cyntaf mis Mehefin. Dyfeiswyd y ras gan bapur newydd lleol, y Dauphiné Libéré, a roddodd i'r ras ei henw. Rhannwyd y gwaith o drefnu'r ras rhwng cyhoeddwyr y papur a'r Amaury Sport Organisation (ASO) am nifer o flynyddoed: ond yn 2010, ildiodd y papur yr holl gyfrifoldeb am redeg y ras i ASO, a byrrhawyd enw'r ras. Ynghyd â'r Tour de Suisse, mae'r Dauphiné yn ras bwysig yn arwain at y Tour de France ym mis Gorffennaf, ac mae'n ran o galendr Rheng y Byd, UCI.
Enghraifft o'r canlynol | rasio dros ddyddiau ![]() |
---|---|
Math | 2.HC, 2.PT, 2.UWT ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1947 ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
Gwefan | http://www.criterium-du-dauphine.fr/ ![]() |
![]() |
Oherwydd fod y Dauphiné yn ardal fynyddig, arbenigwyr dringo yw'r enillwyr yn aml. Mae nifer o esgyniadau sy'n adnabyddus o'u cynnwys yn y Tour de France, megis Mont Ventoux, l'Alpe d'Huez, a'r Col du Galibier nau Col de la Chartreuse, yn aml yn ymddangos yn y Dauphiné Libéré. Mae pob un o'r seiclwyr sydd wedi ennill y Tour de France bum gwaith neu fwy, hefyd wedi ennill y Dauphiné Libéré.
Cynhaliwyd y Dauphiné Libéré gyntaf ym 1947, pan enillodd Edouard Klabinski o Wlad Pwyl. Mae Nello Lauredi, Luis Ocaña, Charly Mottet a Bernard Hinault yn rhannu'r record am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau, gyda tair yr un.