![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0d/Airboy_Comics_v5_2.jpg/640px-Airboy_Comics_v5_2.jpg&w=640&q=50)
Comic
From Wikipedia, the free encyclopedia
:Am y math o ddigrifwr, gweler comedi ar ei sefyll.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0d/Airboy_Comics_v5_2.jpg/640px-Airboy_Comics_v5_2.jpg)
Daw'r enw comic (lluosog: comics[1] neu weithiau comigion) o'r Groeg kōmikos sy'n golygu "amdano neu'n ymwneud â chomedi". Tarddia'r gair o'r gweithiau cynnar mewn comigion a oedd yn ddoniol. Mae'r mwyafrif o gomics yn cyfuno geiriau gyda delweddau, gan ddefnyddio cwmwl geiriol er mwyn dynodi pwy sy'n siarad. Mae geiriau sydd ddim yn ddeialog, yn ehangu ar y delweddau gan amlaf.[2]
Yn 2011 cyhoeddwyd comic manga Cymraeg gan Sioned Glyn, athrawes yn Ysgol Syr Hugh Owen Caernarfon. Mae'r llyfr "Hynt a Helynt" yn darlunio bywydau arwyr gan gynnwys Caradog, Macsen, Cunedda, Buddug (Brenhines yr Iceni), a Gwenllïan merch Brenin Gruffudd ap Cynan.[3]