Amffitheatr yn ninas Rhufain yn yr Eidal yw'r Colosseum neu Coliseum, (Eidaleg: Colosseo). Ei enw gwreiddiol oedd yr Amphitheatrum Flavium ("Amffitheatr y Flafiaid"). Y Colosseum yw'r amffithatr mwyaf a adeiladwyd yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.
Math | Amffitheatr Rufeinig, safle archaeolegol, atyniad twristaidd, stadiwm, archaeological artifact museum, Italian national museum, historical civil building museum, Museum of the Italian Ministry of Culture |
---|---|
Agoriad swyddogol | 81 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | archaeological park of Colosseum |
Sir | Roma Capitale |
Gwlad | yr Eidal |
Arwynebedd | 5,000 m², 30,000 m² |
Cyfesurynnau | 41.8903°N 12.4922°E |
Cod post | 00184 |
Hyd | 187 metr |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Rufeinig |
Statws treftadaeth | ased diwylliannol yr Eidal |
Sefydlwydwyd gan | Vespasian |
Manylion | |
Deunydd | trafertin Rhufain, twff, concrit |
Saif y Colosseum ychydig i'r dwyrain o Fforwm Rhufain. Dechreuwyd ei adeiladu gan yr ymerawdwr Vespasian rhwng 70 a 72 OC, a gorffennwyd y gwaith yn 80 yn nheyrnasiad ei fab, Titus. Gwnaed newidiadau i'r cynllun yn ystod teyrnasiad brawd Titus, Domitian 81-96).
Gallai'r Colosseum ddal tua 50,000 o wylwyr, a chafodd ei ddefnyddio am bron 500 mlynedd. Fe'i defnyddid ar gyfer ymladdfeydd gladiator a difyrrion eraill.
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.