Brenin neu bennaeth grymus yn yr Hen Ogledd oedd Coel Hen neu Coel (Hen) Godebog (fl. dechrau'r 5g efallai). Ei fab oedd Cenau fab Coel (neu Ceneu).
Coel Hen | |
---|---|
Ganwyd | 360 |
Bu farw | 420 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Priod | épouse de Coel Hen |
Plant | Garbanion ap Coel Hen, Ceneu ap Coel Hen, Cwyllog, Gwenafwy, Peithien, Gwawl ferch Coel Hen, Helena o Gaergystennin |
Mae ei enw yn ffurf Frythoneg ar yr enw personol Lladin Coelius (neu Coelestius) a thybir ar sail hynny ei fod yn dux (sef arweinydd milwrol brodorol) y fyddin Rufeinig yng ngogledd Prydain wrth i rym Rhufain ymddatod ac i'r ymerodraeth adael Prydain.
Llwyddodd Coel i warchod ac amddiffyn y Brythoniaid oedd yn byw yn yr ardaloedd o gwmpas Mur Hadrian rhag yr ymosodiadau newydd gan yr Eingl-Sacsoniaid. Cymaint oedd ei fri fel y daeth pob brenhinllin Frythonaidd yn yr Hen Ogledd i honni eu bod yn tarddu o linach Coel. Dyma'r "Coeling" neu "Coelwys" traddodiadol, disgynyddion Coel Hen. Roeddent yn cynnwys Urien Rheged, Peredur fab Efrog a Gwallog. Mae rhai achau yn gwneud Cunedda yn fab i Edern a Gwawl ferch Coel. Yng Nghymru roedd y Coeling yn cynnwys Llywarch Hen a saint fel Cynllo.
Mae Syr John Morris-Jones yn cynnig uniaethu teyrnas Coel ag ardaloedd Aeron a Kyle yn ne'r Alban.
Yn yr Oesoedd Canol daeth yn adnabyddus yn Lloegr fel Old King Cole, gwrthrych yr hwiangerdd Saesneg.
- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986)
- Syr John Morris-Jones, 'Taliesin', Y Cymmrodor (cyf. XXVIII), 1918
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.