Coegylfinir
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Coegylfinir Numenius phaeopus, yn un o'r rhydyddion yn perthyn i deulu'r Scolopacidae. Mae'n un o'r mwyaf cyffredin o deulu'r Gylfinir, yn nythu ar hyd rhannau helaeth o ogledd Gogledd America, Ewrop ac Asia. Yn Ewrop. mae'n nythu cyn belled i'r de a'r Alban.
Coegylfinir | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Scolopacidae |
Genws: | Numenius |
Rhywogaeth: | N. phaeopus |
Enw deuenwol | |
Numenius phaeopus (Linnaeus, 1758) | |
Fel rheol mae'r Coegylfinir yn aderyn mudol, yn treulio'r gaeaf yn Affrica, De America,de Asia ac Awstralasia. Mae'n un o'r mwyaf o'r rhydyddion yn Ewrop ac Asia, 37–45 cm o hyd, ychydig yn llai na'r Gylfinir. Mae'n bwydo trwy chwilio yn y mwd am anifeiliaid bychain.
Mae pedwar is-rywogaeth:
- Numenius phaeopus phaeopus - gogledd Ewrop, gogledd-orllewin Asia
- Numenius phaeopus variegatus - gogledd-ddwyrain Asia
- Numenius phaeopus alboaxillaris - canolbarth Asia (prin)
- Numenius phaeopus hudsonicus - gogledd Gogledd America
Yng Nghymru, mae'r Coegylfinir yn weddol gyffredin pan mae'n mudo tua'r gogledd yn Ebrill-Mai ac wrth ddychwelyd tua'r de rhwng Gorffennaf a dechrau Medi. Ceir ychydig o gofnodion o'r rhywogaeth yn aros yma dros y gaeaf, ac o leiaf un cofnod ohoni'n nythu yma.