Codwr gwastraff
person sy'n casglu offer a gwastraff ailgylchu / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae godwr gwastraff yn berson sy'n chwilio am ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu ac sy'n cael eu taflu gan eraill i'w gwerthu neu i'w defnyddio'n bersonol.[1] Ceir miliynau o godwyr gwastraff ledled y byd, yn bennaf mewn gwledydd sy'n datblygu, ond yn gynyddol mewn gwledydd ôl-ddiwydiannol hefyd.[2] Mae casglwr gwastraff (hen enw: dyn lludw) yn berson sy'n casglu sbwriel neu wastraff ar gyfer safle tirlenwi neu losgydd, nid o reidrwydd ar gyfer cyfleuster ailgylchu.
Mae gwahanol fathau o godi gwastraff, ond dechreuodd y traddodiadau modern o godi gwastraff yn ystod y cyfnod diwydiannol yn y 19g.[3] Rhwng y 1980au a'r 2020au, mae codi gwastraff ailgylchu wedi ehangu'n esbonyddol yn y byd sy'n datblygu oherwydd trefoli, gwladychiaeth wenwynig a'r fasnach wastraff fyd-eang.[4] Mae llawer o ddinasoedd yn darparu gwasanaeth codi gwastraff solet yn unig.[5]
Yn 2008, bathwyd y term codwyr gwastraff yng Nghynhadledd y Byd Cyntaf o Godwyr Gwastraff sef yn yr iaith wreiddiol "waste picker", i hwyluso cyfathrebu byd-eang. Mae'r term "scavenger" hefyd yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin yn Saesneg, ond mae llawer o godwyr gwastraff yn ei chael yn ddiraddiol oherwydd y gymhariaeth ymhlyg ag anifeiliaid.[6]
Mae casglwr gwastraff yn wahanol i gasglwr sbwriel oherwydd gall y gwastraff a gesglir gan yr olaf fod ar gyfer safle tirlenwi neu losgydd, nid o reidrwydd ar gyfer cyfleuster ailgylchu.