![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/75/MSst_duo_m2.jpg/640px-MSst_duo_m2.jpg&w=640&q=50)
Co-bach
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cerdyn fflash hawdd ei drin gyda'r gallu i gofio data ydy Co-bach. Mae'r gair yn cael ei ddefnyddio am deulu cyfan o ffyn (neu gardiau) gan gynnwys y Memory Stick PRO, sy'n welliant ar y rhagflaenydd gan ei fod yn medru cynnal mwy o gof ac yn trosglwyddo'r wybodaeth tipyn cynt.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/75/MSst_duo_m2.jpg/640px-MSst_duo_m2.jpg)
Cafodd ei lawnsio gan Sony yn Hydref 1998 ar gyfer offer electronic megis y camera digidol[1], a defnyddir y bathiad Cymraeg gan fod y term yn cael ei ddefnyddio yng Ngogledd Cymru fel llysenw am "dad". Mae'n cynnwys dau air: cof a bach.
Yn Rhagfyr 2006 ychwanegodd Sony Memory Stick PRO-HG, datblygiad o'r PRO a ellid ei ddefnyddio i gynnal a throsglwyddo fideo cydraniad uchel a lluniau gan gamerĂ¢u digidol.[2] Ymhlith yr ychydig gwmniau eraill a all eu cynhyrchu mae SanDisk a Lexar. Mae Kingston yn cynhyrchu microSD ar gyfer addasiad o'r Kingston, ond yn answyddogol.