carol Nadolig gan Charles Wesley From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Clywch Lu'r Nef yn emyn Nadolig, neu garol, Cristnogol sy'n addasiad i'r Gymraeg o'r carol Saesneg Hark! the Herald Angles Sing gan Charles Wesley. Mae'n emyn rhif 452 yn Caneuon Ffydd,[1] y Llyfr Emynau Cydenwadol a gyhoeddwyd yn 2001. Mae'n cael ei chanu fel arfer i addasiad o'r dôn Vaterland, in deinen Gauen gan Felix Mendelssohn.
Llu'r Nef yn cyhoeddi genedigaeth yr Iesu i'r Bugeiliaid | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol, Emyn Nadolig, gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Awdur | Charles Wesley, George Whitefield |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1739 |
Genre | carol Nadolig, Emyn Nadolig |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Cyfansoddwr | Felix Mendelssohn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ysgrifennodd Charles Wesley'r garol yn ystod cyfnod y Nadolig 1738. Cafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn Eglwys Santes Fair, Islington, Llundain ar ddydd Nadolig yr un flwyddyn mewn gwasanaeth â oedd yn cael ei harwain gan Wesley. Cafodd ei gyhoeddi gyntaf ym 1739 yn Hymns and Sacred Poems casgliad o emynau a olygwyd gan John Wesley, brawd Charles. Enw'r carol yng nghasgliad John Wesley oedd Hymn for Christmas-Day.[2]
Roedd yr emyn a gyhoeddwyd gan John Wesley yn un o 10 pennill 4 llinell o hyd a heb gytgan. Geiriau agoriadol yr emyn oedd Hark how all the welkin rings. Gair Saesneg canol yw welkin, oedd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd farddonllyd ar gyfer yr awyr, y wybren, y nefoedd ac ati.[3] Gan na fyddai pobl gyffredin yn gyfarwydd ag ystyr welkin mae'n bosib na fyddai'r carol mor boblogaidd ac ydyw o hyd pe na fyddai wedi ei newid i'r geiriau mwy cyffredin Hark! The Herald Angles Sing.[4] George Whitefield oedd yn gyfrifol am newid y llinell agoriadol ar gyfer ei gasgliad Collection of hymns for social worship (1754).[5]
Cafwyd newid arall i emyn gwreiddiol Wesley yn argraffiad 1782 o The Tate and Brady New Version of the Psalms of David, lle cyhoeddwyd addasiad Whitefield gydag ail adroddiad o gwpled agoriadol yr emyn Hark! The Herald Angels sing / Glory to the newborn king fel cytgan ar ôl pob pennill.
Mae'r fersiwn Saesneg mwyaf cyffredin bellach yn cynnwys 3 pennill 8 llinell, gyda'r cytgan.
Gelli'r dilyn datblygiad yr emyn Saesneg o'r gwreiddiol i'r cyffredin cyfoes ar Hark! The Herald Angels Sing, Wikisource Saesneg
Megis y fersiwn Saesneg, mae'r carol Cymraeg fel y cenir heddiw wedi mynd trwy lawer o fersiynau. Mae'r fersiwn sydd yn Caneuon Ffydd yn gyfuniad o dri ymgais i'w gyfieithu:[6]
Fersiwn cyfansawdd o'r tri yw'r un sy'n cael ei ganu, gan amlaf, yn y Gymraeg heddiw.
Dymuniad Charles Wesley oedd cael tôn araf a difrifddwys ar gyfer ei gerdd. Does dim cofnod o'r tôn gwreiddiol. Ym 1840 - gan mlynedd ar ôl cyhoeddi'r emyn gyntaf yn Hymns and Sacred Poems - cyfansoddodd Mendelssohn cantata i goffáu dyfeisio'r argraffwasg teip symudol gan Johann Gutenberg; cerddoriaeth o'r cantata hwnnw, wedi'i haddasu gan y cerddor Saesneg William H. Cummings i gyd-fynd â geiriau "Hark! The Herald Angels Sing", sy'n dôn i'r garol sy'n hysbys heddiw, ym mron pob iaith, gan gynnwys y Gymraeg.[7]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.