Ci a fridir i fod yn anifail anwes bychan, yn hawdd ei ddal a'i gludo, ac yn gyfeillgar yw ci arffed[1][2] neu arffetgi,[3] ci côl yn Ne Cymru,[1] ci anwes,[2] ci twt,[2] mangi,[4] ffadelgi neu ffidelgi,[5] ci malpo,[2] neu yn y Gogledd ci rhech[2] neu gi dal pryfed yn ffenestr.[2] Yn hanesyddol cafodd cŵn arffed eu mwytho a'u sbwylio gan aristocratiaid a theuluoedd brenhinol ar draws y byd, ac mae nifer o fridiau yn tarddu o'r hen fyd.[6]
Enghraifft o'r canlynol | math o gi |
---|---|
Math | ci |
Perchennog | American Kennel Club |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un enw ar gi anwes bychan yn Gymraeg yw ci rhech, yn seiliedig ar ddychymyg y werin bobl am fioneddiges rwysgfawr mewn parti uchel-ael, â chi bychan ar ei braich: petai hi yn rhoi rhech gallasai roi'r bai ar y ci.
Yn ôl system ddosbarthu'r Fédération Cynologique Internationale, Grŵp 9 yw'r Cŵn Cymar ac Arffed, ac mae gan y grŵp hon un ar ddeg adran:[7]
- Adran 1 : Bichon a bridiau perthynol
- Adran 2 : Pwdl
- Adran 3 : Cŵn Belgaidd Bychain
- Adran 4 : Cŵn Moel
- Adran 5 : Bridiau Tibetaidd
- Adran 6 : Sbaengwn Arffed Seisnig
- Adran 7 : Chin Japaneaidd a Chŵn Pecin
- Adran 8 : Cŵn Molosaidd Bychain
- Adran 9 : Shiwawa
- Adran 10 : Sbaengwn Arffed y Cyfandir a Chŵn Arffed Rwsiaidd
- Adran 11 : Kromfohrländer
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.