![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/44/Abtao-Parque_Nacional_Chilo%25C3%25A9.jpg/640px-Abtao-Parque_Nacional_Chilo%25C3%25A9.jpg&w=640&q=50)
Chiloé
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ynys yn y Cefnfor Tawel ger arfordir Tsile yw Chiloé. Hi yw'r ynys fwyaf sy'n perthyn yn gyfangwbl i Tsile. Ystyrir yr ynys yn rhan o'r Región de los Lagos.
Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Prifddinas | Castro ![]() |
Poblogaeth | 150,000 ![]() |
Cylchfa amser | UTC−04:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Chiloé Archipelago ![]() |
Sir | Talaith Chiloé ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 8,478 km² ![]() |
Uwch y môr | 491 metr ![]() |
Gerllaw | Gulf of Ancud ![]() |
Cyfesurynnau | 42.6767°S 73.9933°W ![]() |
Hyd | 180 cilometr ![]() |
![]() | |
Cau
Saif yr ynys o fewn 2 km i'r tir mawr yn y gogledd, a thua 50 km i'r dwyrain. Mae'n 180 km o hyd a 50 km o led, gydag arwynebedd o 9,322 km² a phoblogaeth o tua 150,000. Y prif drefi yw Castro, gyda phoblogaeth o 29,148 ac Ancud (27,292). Perthyna llawer o'r trigolion i grŵp ethnig yr Huilliche.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/9/9b/Chile_Chiloe_Island.png)