Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyfr ffantasi i blant gan Roald Dahl yw Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr (Charlie and the Great Glass Elevator). Mae'n ddilyniant i Charlie a'r Ffatri Siocled, gan ddilyn anturiaethau Charlie Bucket wedi iddo adael ffatri siocled Willy Wonka.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Roald Dahl ![]() |
Cyhoeddwr | Alfred A. Knopf ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Iaith | Ffrangeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1972 ![]() |
Genre | nofel i blant ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Charlie a'r Ffatri Siocled ![]() |
Prif bwnc | space tourism, Beijing–Washington hotline, fitamin, Wonka's Chocolate Factory ![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/9/9e/Charlie_and_the_Great_Glass_Elevator.jpg)
Cyhoeddwyd y stori Saesneg wreiddiol yn yr Unol Daleithiau ym 1972, gan Alfred A. Knopf Inc., ac yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf yn 1973 gan George Allen & Unwin. Cyhoeddwyd yn y Gymraeg gyntaf yn 2010, gan Rily Publications, y cyfieithiad gan Elin Meek.
Ni addaswyd y llyfr erioed yn ffilm gan y gwrthododd Dahl adael iddynt ei addasu wedi iddo fod mor anhapus gyda'r addasiad ffilm cyntaf o Charlie a'r Ffatri Siocled, sef Willy Wonka & the Chocolate Factory a ryddhawyd ym 1971. Mae Tim Burton a Johnny Depp wedi datgan nad oes ganddynt unrhyw fwriad o greu dilyniant i'w ffilm hwy, Charlie and the Chocolate Factory, ond mae elfennau o stori Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr yn ymddangos tuag at ddwedd y ffilm hwnnw.[1]
Roedd Dahl wedi bwriadu ysgrifennu trydydd llyfr yn y gyfres (Charlie and the White House) ond ni orffennodd hi.[2]