From Wikipedia, the free encyclopedia
Hanes amrywiol ac anghyson sydd gan gelf Lloegr. Ar y cyfan, mae'r Saeson wedi dynwared ac addasu arddulliau cyfandir Ewrop, ac weithiau'n cyfrannu at fudiadau celf rhyngwladol gyda nodweddion sy'n unigryw i Loegr. O bryd i'w gilydd Lloegr fu ar flaen y gad mewn mudiadau newydd sydd wedi dylanwadu ar wledydd eraill.
Gwelir ambell nodwedd yng nghelf Lloegr cyn dyfodiad yr Eingl-Sacsoniaid a gafodd ddylanwad elfennol ar arddulliau a ffurfiau gweledol yn y wlad ers hynny. Patrymau troellog oedd yn addurno gwneuthurbethau'r Celtiaid, a bu llinellau rhythmig yn gyffredin yng nghelf Lloegr trwy gydol ei hoes. Dylanwadodd brithweithiau'r Rhufeiniaid ar batrymau'r crefftwyr brodorol, er na chafodd cynlluniau trefol a phensaernïaeth filwrol Rufeinig effaith bwysig.
Yn sgil goresgyniadau'r Eingl-Sacsoniaid yn y 5g, daeth diwylliant Germanaidd i Loegr. Cyfunwyd patrymau a llinellau haniaethol â ffigurau o bobl ac anifeiliaid, delweddaeth baganaidd cyn i'r Eingl-Sacsoniaid gael eu cristioneiddio. Dilynai'r un fath o batrymau gan y mynachod a ddarluniodd yr ymblethiadau cywrain yn Efengylau Lindisfarne (c. 700). Celf wychaf y 10g oedd y llawysgrifau goliwiedig, sydd yn debyg i ddarluniau Carolingaidd o ran ei llinellau a'i lliwiau.
Dylanwadodd y Normaniaid, a ddaeth i dra-arglwyddiaethu dros Loegr yn ail hanner yr 11g, ar bensaernïaeth y wlad yn fwy na'i chelf. Codwyd eglwysi a chadeirlannau enfawr yn yr arddull Romanésg, a chanddynt fowtiau asennog, megis Eglwys Gadeiriol Durham (1093–1130). Ceir ychydig o enghreifftiau o gerfluniaeth gain y cyfnod ar ffurf cerfweddau yng Nghaerfuddai (c. 1140), Lincoln (c. 1145), a Mambri (c. 1160–70). Mae ambell waith yn cyfuno patrymau cydblethog yr oesoedd cynt â ffurf gofebol, er enghraifft yn Ely, ond ar y cyfan dynwarediadau plwyfol yw cerfluniau Romanésg y Saeson. Datblygodd paentiadau'r llawysgrifau â'r man-gelfyddydau orau, gyda'u lliwiau'n grasach a'u llinellau'n drymach nag etifeddiaeth yr Eingl-Sacsoniaid. Enghraifft unigryw, a hynny'n waith seciwlar, o hoffter y Sais am draddodi hanes yn ei gelf yw Brodwaith Bayeux. Daeth dylanwadau'r Môr Canoldir hefyd i gelf Lloegr ar ffurf naturoliaeth megis yr arddull Fysantaidd.
Derbynai celf Lloegr ei haeddiant yn yr oes Gothig, o'r 13g i'r 15g, dan ddylawad y Ffrancod.
Rhoddir yr enw "yr Ysgol Seisnig" ar arlunwyr Lloegr yn y cyfnod 1750–1850. Dyma ffyniant o arddulliau a themâu gwreiddiol yn arluniaeth y wlad a oedd, am y tro cyntaf, cystal â chelf y cyfandir. Ymhlith goreuon yr oes oedd y tirlunwyr J. M. W. Turner a John Constable, y portreadwyr Syr Joshua Reynolds a Thomas Gainsborough, a'r paentiwr anifeiliaid George Stubbs.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.