![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/72/Red_Giant_Chi_Cygni.png/640px-Red_Giant_Chi_Cygni.png&w=640&q=50)
Cawr coch
sêr wedi'u pweru gan ymasiad hydrogen mewn cragen â chraidd anactif o heliwm / From Wikipedia, the free encyclopedia
Seren gawr golau o fàs bach neu ganolig (tua 0.3-0.8 màs yr haul) tua diwedd ei oes yw cawr coch[1][2]. Mae'r mathau yma o sêr wedi gorffen y cyflenwad o danwydd hydrogen yn eu creiddiau ac wedi chwyddo'n fawr ac yn denau, gan gadael y Brif Ddilyniant. Tua 5000 K neu lai yw tymheredd eu hwynebau (ffotosffer) (o'i gymharu â 5778 K yr haul). Y tymheredd yma sy'n gyfrifol am eu lliw coch (pelydriad corff du).
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
![]() Delwedd artist o'r Cawr Goch χ-Cygni | |
Enghraifft o'r canlynol | math o wrthrych seryddol ![]() |
---|---|
Math | Seren gawr ![]() |
![]() |
Cau
Oherwydd eu bod yn eithaf llachar (oherwydd eu maint) ac yn weddol gyffredin, Cewri Coch yw nifer o'r sêr mwyaf cyfarwydd gan gynnwys Arcturus ac Aldebaran.