From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae cawl cregyn bylchog (clam chowder) yn fath o gawl sy'n cynnwys cregyn bylchog a potes. Yn ogystal â chregyn bylchog, mae cynhwysion cyffredin yn cynnwys tatws wedi'u deisio, winwns a seleri. Ni ddefnyddir llysiau eraill fel arfer, ond weithiau gellir ychwanegu stribedi o foron bach, garnais o bersli neu ddail llawrwyf er mwyn ychwanegu lliw a blas. Credir y ddefnyddid cregyn bylchog mewn cawl oherwydd eu bod yn gymharol rhwydd i'w cynaeafu.[1] Mae cawl cregyn bylchog fel arfer yn cael ei bwyta gyda chracers hallt neu gracers wystrys bach hecsagonol.
Enghraifft o'r canlynol | chowder, saig |
---|---|
Math | cawl pysgod, bwyd, clam dish |
Yn cynnwys | clam |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tarddodd y pryd o fwyd hwn yn Nwyrain yr Unol Daleithiau, ond erbyn hyn mae'n gyffredin i'w weld mewn bwytai ledled yr UDA, yn enwedig ar ddydd Gwener pan oedd Catholigion Americanaidd yn draddodiadol yn ymatal rhag bwyta cig. Mae nifer o amrywiadau rhanbarthol yn bodoli, ond y ddau fwyaf cyffredin yw cawl cregyn bylchog Lloegr Newydd (neu'r cawl "gwyn") a chawl cregyn bylchog Rhode Island / Manhattan (neu'r cawl "coch").
Cyflwynwyd yr amrywiaeth gynharaf a mwyaf poblogaidd o'r cawl, cawl cregyn bylchog Lloegr Newydd, i'r rhanbarth gan ymsefydlwyr Ffrengig, Prydeinig, neu o Nova Scotia. Daeth yn gyffredin yn y 18g. Cyhoeddwyd y rysáit gyntaf ar gyfer amrywiaeth arall, cawl cregyn bylchog Manhattan, sy'n adnabyddus am ddefnyddio tomatos ac o ganlyniad ei liw coch, ym 1934. Ym 1939, bu talaith Maine yn trafod deddf a fyddai’n gwahardd defnyddio tomatos mewn cawl cregyn bylchog, ac felly'n gwahardd y ffurf “Manhattan”.
Ers i boblogrwydd cawl cregyn blychog Lloegr Newydd ledu ledled yr Unol Daleithiau yn y 19eg a'r 20g, mae llawer o ranbarthau eraill wedi cyflwyno eu troeon lleol eu hunain ar y rysáit draddodiadol:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.