cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr ffilm ac actores a aned yn Toronto yn 1954 From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores a digrifwraig o Ganada (a dinesydd Americanaidd erbyn hyn) yw Catherine Anne O'Hara (ganwyd 4 Mawrth 1954), sydd wedi ennill Emmy a Gwobr Gemini. Mae'n adnabyddus am ei gwaith digri ar SCTV a'i rôl mewn ffilmiau, gan gynnwys Delia Deetz yn Beetlejuice, Kate McCallister yn Home Alone, Sally yn The Nightmare Before Christmas ac ei hymddangosiad yn ffilmiau mockumentary wedi ei cyfarwyddo gan Christopher Guest.
Catherine O'Hara | |
---|---|
Ganwyd | Catherine Anne O'Hara 4 Mawrth 1954 Toronto |
Man preswyl | Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor, sgriptiwr, actor llais, cyfansoddwr caneuon, canwr, cyfarwyddwr ffilm, byrfyfyriwr, cyfarwyddwr |
Pwysau | 50 cilogram |
Priod | Bo Welch |
Plant | Matthew Welch, Luke Welch |
Gwobr/au | Earle Grey Award, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Governor General's Performing Arts Award, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Atores mewn Cyfres Gomedi, Swyddog Urdd Canada, Canadian Comedy Award for Best Female Performance in a Feature, Canadian Comedy Award Winners for Comedians, Urdd Canada, Golden Globes, Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn |
Dechreuodd ei gyrfa actio yn 1974 fel aelod o gast The Second City yn Toronto. Roedd yn ddirprwy actor ar gyfer Gilda Radner tan iddi adael ar gyfer Saturday Night Live. Dyflwydd yn ddiweddarach fe chwaraeodd y grŵp theatr hwn SCTV, a daeth O'Hara yn berfformiwr rheolaidd.
Yn y 1970au hwyr, fe gyflewodd y lleisiau ar gyfer nifer o gymeriadau cartŵn, a parhaodd i wneud hyn trwy ei gyrfar. Yn ystod cyfnod byr yn yr 80au pan oedd SCTV rhwng cytundebau rhwydwaith, fe gafodd ei chyflogi i gymryd lle Ann Risley ar Saturday Night Live pan oedd yn cael ei ail-weithio yn 1981. Er, bu'n rhaid iddi ymddiswyddo heb ymddangos ar un rhaglen, gan ddewis i ddychwelyd i SCTV pan arwyddwyd cytundeb gyda NBC, a dychwelodd y rhaglen i'r awyr.[1][2][3] Rhoddwyd ei swydd SNL i Robin Duke, a oedd hefyd wedi cymryd lle O'Hara mewn un cyfres o SCTV.
Ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau dros y blynyddoedd, gan gynnwys After Hours gan Martin Scorsese yn 1985, yn ogystal â chwarae rhanau yn ffilmiau Tim Burton, Beetlejuice a The Nightmare Before Christmas. Chwaraeodd Kate McCallister yn y ddau ffilm Home Alone. Serennodd yn ei phedwaredd ffilm Christopher Guest yn 2006, For Your Consideration (yn dilyn Waiting for Guffman, Best in Show, a A Mighty Wind).
Ar 9 Mehefin 2007, cafodd ei sefydlu yn Canada's Walk of Fame. Yn Mai 2008, datganwyd ei bod wedi arwyddo cytundeb i ymddangos yn drama ddigri ABC, Good Behavior.[4]
Ganwyd O'Hara yn Toronto, Ontario i deulu Catholig Gwyddelig.[5] Wedi brodori daeth yn ddinesydd yr Unol Daleithiau.[6] Priododd y dylunydd cynhyrchu / cyfarwyddwr ffilm Bo Welch yn 1992, ac mae ganddynt ddau fab, Matthew (ganwyd 1994) a Luke (ganwyd 1997). Mae'n chwaer i'r gantores Mary Margaret O'Hara, er mae hi'n gantores ei hun, fel a welwyd yn y ffilm 2003, A Mighty Wind. Mae ganddi gyflwr meddygol o'r enw Dextrocardia gyda situs inversus.[7]
Blwyddyn | Teitl | Rôl |
---|---|---|
1983 | Rock & Rule | Aunt Edith |
1985 | After Hours | Gail |
1988 | Beetlejuice | Delia Deetz |
1990 | Home Alone | Kate McCallister |
1990 | Betsy's Wedding | Gloria Henner |
1990 | Dick Tracy | Texie Garcia |
1990 | Little Vegas | Lexie |
1992 | Home Alone 2: Lost in New York | Kate McCallister |
1992 | There Goes the Neighborhood | Jessie Lodge |
1993 | The Nightmare Before Christmas | Sally a Shock (llais a chanu) |
1994 | Little Giants | Young Boy's Mother |
1994 | A Simple Twist of Fate | Mrs. Simon |
1994 | Wyatt Earp | Allie Earp |
1994 | The Paper | Susan |
1995 | Tall Tale | Calamity Jane |
1996 | Waiting for Guffman | Sheila Albertson |
1997 | Hope (Teledu) | Muriel Macswain |
1997 | Pippi Longstocking | llais Mrs. Prysselius |
1999 | Late Last Night (Teledu) | y Shrink |
1998 | Home Fries | Mrs. Lever |
1999 | Bartok the Magnificent | llais Ludmilla |
1999 | The Life Before This | Sheena |
2000 | Edwurd Fudwupper Fibbed Big | llais |
2000 | Best in Show | Cookie Guggelman Fleck |
2001 | Speaking of Sex | Connie Barker |
2001 | Committed (Cyfres deledu) | |
2002 | Orange County | Cindy Beugler |
2003 | A Mighty Wind | Mickey Crabbe |
2004 | Surviving Christmas | Christine Valco |
2004 | The Wool Cap | Gloria |
2004 | Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events | Justice Strauss |
2005 | Chicken Little | Tina |
2006 | For Your Consideration | Marilyn Hack |
2006 | Monster House | DJ's Mother |
2006 | Brother Bear 2 | Kata |
2006 | Over The Hedge | Penny |
2008 | Penelope | Jessica Wilhern |
2009 | Farlanders | I'w gadarnhau |
2009 | Where the Wild Things Are | Judith |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.