![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/46/Ogmore_Castle_5085.jpg/640px-Ogmore_Castle_5085.jpg&w=640&q=50)
Castell Ogwr
castell rhestredig Gradd I yn Saint-y-brid / From Wikipedia, the free encyclopedia
Saif Castell Ogwr ar bwys pentref Ogwr, i'r de o Ben-y-bont ar Ogwr ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Adeiladwyd y castell yn fuan ar ôl 1100 gan William de Londres pan oresgynodd y Normaniaid y rhan hon o dde Cymru.
Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
![]() | |
Math | castell ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cymuned Saint-y-brid ![]() |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 8.5 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4806°N 3.61149°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM037 ![]() |
Cau
Mae hwn yn un o sawl castell yn yr ardal a adeiladwyd yn y cyfnod hwnnw gan y Normaniaid, yn cynnwys Castell Coety, Castell Candleston a Chastell Newydd.
Lleolir y castell i'r de o Afon Ewenni, cyn iddi ymuno ag Afon Ogwr.
Defnyddiwyd y castell hyd at y 19eg ganrif at sawl pwrpas, gan cynnwys Llys Ynadon a charchar. Mae cerrig llamu poblogaidd ar gyfer croesi'r afon ger y castell a cheir llwybr sy'n arwain at bentref cyfagos Merthyr Mawr.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/4/42/Castell_ogwr.jpg/640px-Castell_ogwr.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/26/Ogmore_Castle_-_geograph.org.uk_-_20635.jpg/320px-Ogmore_Castle_-_geograph.org.uk_-_20635.jpg)