![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e4/Bryn_Cader_Faner_stone_circle_-_geograph.org.uk_-_185579.jpg/640px-Bryn_Cader_Faner_stone_circle_-_geograph.org.uk_-_185579.jpg&w=640&q=50)
Carnedd gron
carnedd o'r Oes Haearn neu Efydd lle claddwyd y meirw / From Wikipedia, the free encyclopedia
Heneb a godwyd ar ddiwedd Oes y Cerrig a chychwyn Oes yr Efydd i gladdu'r meirw ydy carnedd gron (Saesneg: round cairn). Weithiau, ymddengys iddi hefyd fod yn rhan o seremonïau neu ddefodau crefyddol. Fel arfer, cânt eu defnyddio dro ar ôl tro am gyfnod o tua 500 mlynedd. Ar adegau, mae iddynt gerrig ymylfaen isel i gynnal y pridd mewn siâp cylch, ond ni ddylid eu cymysgu gyda math arall o garneddau sef carnedd ymylfaen, na chwaith gyda charnedd gylchog. Ychydig iawn ohonyn nhw sydd i'w cael yn Sir Benfro ac ym Môn; eithr ceir tua 150 carnedd gron ym Mhowys.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e4/Bryn_Cader_Faner_stone_circle_-_geograph.org.uk_-_185579.jpg/320px-Bryn_Cader_Faner_stone_circle_-_geograph.org.uk_-_185579.jpg)
Ceir oddeutu 400 carnedd gron ar lyfrau Cadw yng Nghymru. Ymhlith y mwyaf trawiadol y mae: Bryn Cader Faner. Yn y rhestr isod rydym wedi uno rhai carneddau cyfagos, oni bai fod iddyn nhw enw e.e. ceir pedair carnedd yn yr erthygl ar "Carnedd gron Upper House".