![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/60/Carlo_Collodi.jpg/640px-Carlo_Collodi.jpg&w=640&q=50)
Carlo Collodi
awdur Eidalaidd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Llysenw llenyddol Carlo Lorenzini, awdur a newyddiadurwr Eidalaidd, yw Carlo Collodi (24 Tachwedd 1826 – 26 Hydref 1890), sy'n adnabyddus am ei nofel i blant Le avventure di Pinocchio.
Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...
Carlo Collodi | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Carlo Collodi ![]() |
Ganwyd | Carlo Lorenzini ![]() 24 Tachwedd 1826 ![]() Fflorens ![]() |
Bu farw | 26 Hydref 1890 ![]() Fflorens ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Eidal, Uchel Ddugiaeth Toscana, United Provinces of Central Italy, Brenhiniaeth Sardinia ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, awdur plant, newyddiadurwr, cyfieithydd ![]() |
Adnabyddus am | I racconti delle fate, Giannettino, Minuzzolo, Le avventure di Pinocchio, Il Lampione ![]() |
Arddull | llenyddiaeth plant ![]() |
Gwefan | https://www.carlocollodi.it ![]() |
Cau
Fe'i ganwyd yn Fflorens. Mae ei ffugenw yn deillio o bentref Collodi, rhwng Lucca a Pistoia. Ganwyd ei fam yno a threuliodd Collodi ei hun ran helaeth o'i blentyndod yno hefyd. Yn ogystal â'i waith fel awdur ffuglen, llyfrau ffeithiol, dramâu a straeon plant, bu hefyd yn newyddiadurwr. Bu ganddo ran yn y Risorgimento a arweiniodd at uno'r Eidal, a gwasanaethodd fel gwirfoddolwr ym myddin Toscana yn ystod y ddau ryfel annibyniaeth yr Eidal (1848, 1859). Bu farw yn 63 oed yn Fflorens, ei dref enedigol.