Meddyg, is-gennad ac ymgyrchydd iaith/gwleidyddol From Wikipedia, the free encyclopedia
Meddyg o Gymro oedd Dr Carl Iwan Clowes (11 Rhagfyr 1943 – 4 Rhagfyr 2021)[1]. Sefydlydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn 1978 i brynu ac adfywio yr hen bentref a sefydlu canolfan iaith yno.
Carl Clowes | |
---|---|
Ganwyd | 11 Rhagfyr 1943 Manceinion |
Bu farw | 4 Rhagfyr 2021 Pencaenewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, meddyg teulu, ymgyrchydd |
Plant | Cian Ciarán, Dafydd Ieuan |
Gwobr/au | OBE |
Ganwyd a magwyd Clowes yn Manceinion, ei fam yn siaradwr Cymraeg a'i dad yn Sais. Pan dychwelodd ei rieni i ogledd Cymru ac fe aeth ati i ddysgu’r Gymraeg. Wedi cymhwyso’n feddyg yn 1967, treuliodd wyth mlynedd yn gweithio fel meddyg yn Llanaelhaearn yn Llŷn cyn ennill gradd Meistr mewn Meddygaeth Gymdeithasol o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.
Ef hefyd oedd cadeirydd cychwynnol Antur Aelhaearn, y Gydweithfa Gymunedol gyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 1974 a gafodd ei sefydlu er mwyn achub yr ysgol leol, ac yn gadeirydd cychwynnol ac yn Llywydd Oes Dolen Cymru, y berthynas rhwng Cymru a Lesotho a gafodd ei sefydlu yn 1985.[1]
Cyhoeddodd gyfrol Nant Gwrtheyrn a gyhoeddwyd 15 Gorffennaf 2004 gan Y Lolfa.[2]
Roedd yn briod a Dorothi ac mae ganddyn nhw bedwar o blant – Dafydd, Rhiannon, Angharad a Cian, y ddau fachgen yn gerddorion a oedd yn aelodau o Super Furry Animals.[3]
Bu farw yn ei gartref Llecyn Llon, Pencaenewydd yn 77 mlwydd oed. Cynhaliwyd gwasanaeth angladd preifat i'r teulu yn unig yn Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn ar ddydd Sadwrn, 18 Rhagfyr 2021 a rhoddwyd i orffwys ym Mynwent Llanaelhaearn, gyda gwasanaeth cyhoeddus o goffad a dathliad o'i fywyd yn Neuadd y Nant, Nant Gwrtheyrn am 2.00 o'r gloch.[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.