Carcharor gwleidyddol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Unigolyn sy'n cael ei garcharu gan yr awdurdodau gwladol oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol neu grefyddol yw carcharor gwleidyddol.
Enghraifft o'r canlynol | galwedigaeth, rôl |
---|---|
Math | prisoner, grŵp o bobl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn aml mae llywodraethau yn cyfiawnhau carcharu gwrthwynebwyr trwy honni, yn gam neu'n gymwys, eu bod yn cefnogi dulliau treisgar, yn ceisio dymchwel y wladwriaeth, neu'n derfysgwyr. Y gwahaniaeth rhwng carcharor gwleidyddol a charcharor cydwybod yw fod y term cyntaf yn cynnwys pobl sydd yn "euog" o geisio dymchwel llywodraeth, e.e. pobl yn ymladd yn erbyn system annemocrataidd neu'n ceisio dymchwel llywodraeth sy'n elyniaethus i'w credoau ac sy'n defnyddio trais o ryw fath er mwyn gwneud hynny, tra bod yr ail yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at bobl a garcharir yn unig am eu bod yn amharod i ildio i system sydd, yn eu tyb hwy, yn anghyfiawn, a.y.y.b., ond sydd ddim yn euog o ddefnyddio dulliau treisgar neu anghyfansoddiadol, yn ogystal â phobl a garcharir am y "drosedd" o fod yn wahanol a dim byd mwy.