camlas enfawr ym Mhanama From Wikipedia, the free encyclopedia
Camlas 82 km (51 millt) yn Panamâ yw Camlas Panamâ (Sbaeneg: Canal de Panamá) sy'n cysylltu Cefnfor Iwerydd a'r Cefnfor Tawel. Fe'i crewyd er mwyn masnachu drwy longau cludo nwyddau. O ran peirianneg, mae'n un o'r prosiectau mwyaf ac anoddaf erioed, gyda llwybr tarw Camlas Panamâ yn lleihau'r amser i longau deithio rhwng cefnforoedd yr Iwerydd a'r Môr Tawel yn fawr, gan eu galluogi i osgoi llwybr hir a pheryglus Cape Horn o amgylch y rhan mwyaf deheuol o Dde America.
Math | camlas i longau |
---|---|
Agoriad swyddogol | 15 Awst 1914 |
Cysylltir gyda | Cefnfor yr Iwerydd, Y Cefnfor Tawel |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Seven Wonders of the Modern World |
Sir | Talaith Panamá, Panamá Oeste Province, Talaith Colón |
Gwlad | Panamâ |
Uwch y môr | 26 metr |
Cyfesurynnau | 9.12°N 79.75°W |
Hyd | 82 cilometr |
Statws treftadaeth | Historic Civil Engineering Landmark |
Manylion | |
Ceir locs ar bob pen sy'n codi llongau i fyny i Lyn Gatun, sef llyn artiffisial a grëwyd i leihau faint o waith cloddio sy'n ofynnol ar gyfer y gamlas, 26 m (85 tr) uwch lefel y môr, ac yna gostyngir y llongau yn y pen arall. Adeiladwyd trydydd lôn ehangach o lociau rhwng Medi 2007 a Mai 2016. Dechreuodd y ddyfrffordd estynedig weithredu'n fasnachol ar 26 Mehefin 2016. Mae'r cloeon newydd yn caniatáu cludo llongau New Panamax, llongau llawer mwy. Ceir hefyd dau grŵp o lociau ochr arfordir y Cefnfor Tawel ac un ochr arfordir Cefnfor Iwerydd gyda drysau dur enfawr yn pwyso 745 tunnell ar loc Gatún. Ond o ganlyniad i'w hadeiladwaith crefftus gellir eu hagor gan beiriant 30 kW (40 marchnerth). Ceir nifer o lociau ar y gamlas, ond maent i gyd mewn parau er sicrhau y gall y llongau fynd trwy'r gamlas i'r ddau gyfeiriad heb orfod colli gormod o amser.[1]
Mae'r gamlas yn mynd trwy Lyn Gatún sydd 26m yn uwch na lefel y môr, ac mae lefel y Cefnfor Tawel yn 24 cm yn uwch na lefel Cefnfor Iwerydd, ac mae llanw'r Cefnfor Tawel yn fwy hefyd.
Mae traffig blynyddol y gamlas wedi codi o tua 1,000 o longau ym 1914, pan agorodd y gamlas, i 14,702 o longau yn 2008, a chyfanswm o 333.7 miliwn o dunelli Camlas Panamâ / System Mesur Cyffredinol (PC / UMS).[2] Erbyn 2012, roedd mwy na 815,000 o gychod wedi pasio trwy'r gamlas. Yn 2017 cymerodd 11.38 awr ar gyfartaledd i longau basio rhwng dau loc y gamlas.[3] Mae Cymdeithas Peirianwyr Sifil America wedi graddio Camlas Panamâ yn un o saith rhyfeddod y byd modern.[4]
Am fod hi'n beryglus mynd o gwmpas yr Horn yn Ne America, roedd pobl wedi bod eisiau camlas dros culdir Panamâ ers blynyddoedd, ond dim ond yn y 1820au y daeth hynny i ymddangos yn bosib. Roedd pobl yn ystyried camlas ar draws Nicaragwa hefyd, ond nid adeiladwyd camlas o'r fath. Y cofnod cynharaf yn ymwneud â chamlas ar draws y tir dan sylw a elwir yn '"Guldir Panamâ" oedd ym 1534, pan orchmynnodd Siarl V, Ymerawdwr Glan Rufeinig a Brenin Sbaen, arolwg ar gyfer llwybr trwy'r America er mwyn hwyluso'r fordaith i longau sy'n teithio rhwng Sbaen a Pheriw. Roedd y Sbaenwyr yn ceisio ennill mantais filwrol dros y Portiwgaliaid.[5]
Llwyddodd Ferdinand de Lesseps, peiriannydd o Ffrainc adeiladu Camlas Suez yn yr Aifft, ac ef oedd y peiriannydd cyntaf i gynllunio'r gamlas. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 1 Ionawr, 1880. Ond yn wahanol i'r Aifft lle roedd aeiladu camlas Suez yn golygu cloddio tywod mewn diffeithdir, roedd yn rhaid cloddio cerrig mewn coedwig law a brwydro yn erbyn dilywiau yn ogystal ag afiechydon trofannol megis clefyd melyn a malaria a bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r prosiect.[6][7]
Beth bynnag, roedd Theodore Roosevelt, Arlywydd yr Unol Daleithiau yn hyderus fod y prosiect hwn yn bwysig i'w wlad—am resymau milwrol yn ogystal â rhai economaidd. Ar y pryd, roedd Panamá yn rhan o Colombia, a felly dechreuodd trafodaethau â Colombia i gael caniatâd adeiladu. O ganlyniad, arwyddwyd Cytundeb Hay-Herran ym 1903, ond ni chadarnhawyd y cytundeb gan Senedd Colombia. Felly roedd Roosevelt yn cefnogi'r mudiad annibyniaeth Panamáidd ac yn danfon llongau rhyfel i'r arfordir pan ddechreuodd frwydr. Doedd gwrthwynebiad Colombia yn erbyn y chwyldro ddim yn cryf iawn (efallai er mwyn osgoi rhyfel yn erbyn yr Unol Daleithiau) a daeth Panamá i fod yn wlad annibyniol; rhoddwyd Camlas Panamá a'r ardal cyfagos i'r Unol Daleithiau ar 23 Chwefror, 1904 am gyfnod amhenodol.[8] Cafodd Panamá $10 miliwn am hynny (ar ôl Cytundeb Hay-Bunau-Varilla, 18 Tachwedd, 1903).[9] Hyd yn oed yn 2021, gwelai lawer o frodorion Panema hyn fel cam gwag a oedd yn bygwth sofraniaeth y wlad.[10][11]
Yn ystod yr adeiladu, bu arbenigwyr o'r Unol Daleithiau yn cryfhau mesurau iechyd ac yn dileu'r clefyd melyn. Roedd tri prif peiriannydd yn gweithio ar y gamlas: doedd y cyntaf, John Findlay Wallace, nad oedd yn llwyddiannus iawn, ac ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn. Gwnaethpwyd y gwaith sylfaenol gan yr ail, John Stevens, ond fe ymddiswyddodd yntau ym 1907. Cwblhawyd y gamlas gan y trydydd, y milwr Americanaidd George Washington Goethals.
Cynllun de Lesseps oedd adeiladu camlas ar lefel y môr, ond methodd a datrys problem yr Afon Chagres a oprlifai'n aml yn ystod y tymor glaw. Felly cynlluniodd Stevens gamlas gyda lociau, gan adeiladu argae enfawr dros Afon Chagres ger Gatún. Defnyddir y llyn enfawr, a grewyd o ganlyniad, i gynhyrchu trydan—ac i'w groesi ar long. Felly mae traean y gamlas yn daith ar hyd lyn artiffisial. Camp enfawr oedd cloddio ffordd trwy wahanfa ddŵr ger Culebra (Toriad Caillard erbyn hyn). Daeth gwaith adeiladu'r gamlas i ben ar y degfed o Hydref, 1913, pan ffrwydrwyd Gamboa Dike gan yr Arlywydd Woodrow Wilson mewn seremoni swyddogol.
Roedd llawer o weithwyr o India'r gorllewin yn gweithio ar greu'r gamlas, a bu o leiaf 5,609 ohonyn farw wrth eu gwaith.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd llongau rhyfel yr Unol Daleithiau yn mynd trwy'r camlas i'r Môr Tawel a roedd Cylchfa'r Gamlas o dan reolaeth yr Unol Daleithiau hyd i 31 Rhagfyr, 1999. Daeth rheolaeth yr Unol Daleithiau ar ben yn ganlyniad i Gytundeb Torrijos-Carter (a arwyddwyd ym 1977 gan yr Arlywydd Jimmy Carter) oedd yn rhoi'r gamlas o dan reolaeth Panamá.
Creewyd y llyn yn 1913 trwy godi argae ar draws Afon Chagres. Mae Llyn Gatun yn rhan allweddol o Gamlas Panamâ, gan ddarparu'r miliynau o litrau o ddŵr sy'n angenrheidiol i weithredu'r locs bob tro y mae llong yn mynd trwodd. Ar adeg ei ffurfio, Llyn Gatun oedd y llyn mwyaf yn y byd o waith dyn. Y fforest law amhosibl o amgylch y llyn fu'r amddiffyniad gorau i Gamlas Panamâ. Heddiw mae'r coedwigoedd hyn yn parhau i fod yn ardaloedd heb ymyrraeth ddynol ac maent yn un o'r ychydig ardaloedd hygyrch lle gellir gweld amryw o rywogaethau brodorol o anifeiliaid a phlanhigion Canol America heb darfu arnynt yn eu cynefin naturiol.
Yr ynys fwyaf ar Lyn Gatun yw Ynys Barro Colorado. Fe'i sefydlwyd ar gyfer astudiaeth wyddonol pan ffurfiwyd y llyn, ac mae'n cael ei weithredu gan y Sefydliad Smithsonian. Tarddodd llawer o ddarganfyddiadau gwyddonol a biolegol pwysig o'r deyrnas anifeiliaid a phlanhigion trofannol yma. Mae Llyn Gatun yn gorchuddio tua 470 km2 (180 metr sgwâr), parth ecolegol trofannol helaeth a rhan o Goridor Coedwig yr Iwerydd. Mae ecodwristiaeth ar y llyn wedi dod yn ddiwydiant i Banamaniaid.
Mae Llyn Gatun yn darparu dŵr yfed ar gyfer Dinas Panamâ a Colón. Pysgota yw un o'r prif weithgareddau hamdden ar Lyn Gatun. Cyflwynwyd y cichia anfrodorol ar ddamwain i Lyn Gatun tua 1967 gan ddyn busnes lleol, ac ers hynny maent wedi ffynnu i ddod yn brif bysgod hela yn Llyn Gatun.[12][13]
Gelwir y pysgodyn hwn yn "Sargento" yn lleol a chredir mai dyna'r rhywogaeth Cichla pleiozona, iddynt darddu o fasnau afonydd Amazon, Rio Negro, ac Orinoco, lle maen nhw'n cael eu hystyried yn brif bysgod o ran pysgota.[14]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.