![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a6/Recurvirostra_avosetta_-_Zoo_Frankfurt_4.jpg/640px-Recurvirostra_avosetta_-_Zoo_Frankfurt_4.jpg&w=640&q=50)
Cambig
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhydydd sy'n aelod o deulu'r Recurvirostridae yw'r Cambig (Recurvirostra avosetta). Mae'n nythu yn Ewrop a gorllewin a chanolbarth Asia, a'r rhan fwyaf ohonynt yn gaeafu yn Affrica a de Asia, er bod rhai yng ngorllewin Ewrop yn aros yn eu hunfan trwy'r flwyddyn.
Ffeithiau sydyn Dosbarthiad gwyddonol, Enw deuenwol ...
Cambig | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Recurvirostridae |
Genws: | Recurvirostra |
Rhywogaeth: | R. avosetta |
Enw deuenwol | |
Recurvirostra avosetta Linnaeus, 1758 | |
Cau
Mae'n aderyn du a gwyn, 42 – 45 cm o hyd, a thro ar i fyny yn y pig, sy'n ei wneud yn aderyn hawdd ei adnabod. Yr aderyn yma sy'n ymddangos ar logo yr RSPB.
Yng Nghymru mae nifer cymharol fychan wedi dechrau nythu ar warchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd yn ddiweddar, ond mae dal yn aderyn prin yng ngweddill Cymru.