Caffè lungo
coffi Eidalaidd wedi ei seilio ar espresso sy'n cynnwys espresso wedi ei eichdynnu'n hirach nag ar gyfer Americano. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r caffè lungo, neu'n aml hepgorir y gair caffe a galw'r ddiod yn lungo yn unig yn ddiod coffi a wneir trwy ddefnyddio peiriant espresso i wneud coffi yn arddull Eidalaidd - du byr (un joch espresso) gyda mwy o ddŵr (dwywaith cymaint yn gyffredinol), gan arwain at goffi mwy, lungo. Mae 'lungo' yn Eidaleg am "hir".
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/50/A_cup_of_coffee_milk.jpg/640px-A_cup_of_coffee_milk.jpg)
Mae gweini espresso arferol yn cymryd rhwng 18 a 30 eiliad i'w dynnu, ac mae'n llenwi 25 i 60 mililitr, tra gall lungo gymryd hyd at funud i'w dynnu, a gallai lenwi 130 i 170 mililitr. Mae amser echdynnu'r dos yn cael ei bennu gan yr amrywiaeth o ffa coffi (cyfuniad o Arabica a Robusta fel arfer), eu malu a phwysau'r peiriant. Ceir crema cryfach ar y caffe lungo na'r Caffè Americano.[1]
Yn Ffrangeg fe'i gelwir yn café allongé.[2]