clwb pêl-droed ar ynys Môn From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae C.P.D Gwalchmai yn dim pêl-droed o Walchmai yn Ynys Mon. Sefydlwyd yn 1946. Mae'n chwarae ei gemau cartef yn Maes Meurig. Ei rheolwr yw Martin Jones, ac mae'r clwb yn rhan o Gynghrair Gwynedd.
Daeth eu llwyddiant mewn cynghrair cyntaf a gofnodwyd yn nhymor 1951/1952, pan ddaeth yn Bencampwyr Adran 3B. Ers hynny mae'r clwb wedi parhau'n llwyddiannus trwy fod yn bencampwyr Cynghrair Ynys Môn mewn deg achlysur arall. Dros y blynyddoedd, mae'r clwb wedi cyflawni llwyddiant mawr mewn amrywiaeth o gystadleuaethau, gan gyrraedd 49 rownd derfynol, ennill 26, ac ennill y N.W.C.F.A cwpan dair gwaith. Daeth y cyfnod mwyaf llwyddiannus i'r clwb pan ddaeth William 'Wil Daddy' Williams a Henry Owen 'Harry Lee' Williams yn rheolwyr yn y 1970au cynnar. Yn ystod eu cyfnodau fel rheolwyr fe enillon nhw lawer o dlysau gan gynnwys chwe pencampwriaethau'r Gynghrair, tair Cwpan Dargie a phum Cwpan Megan. Yn 2003, ddaeth Paul Owen yn rheolwr y clwb, gyda Kenny Jones yn ymuno yn hwyrach, fel cyd-reolwr. Yna, cyrhaeddodd dair rownd derfynol yn ystod y tymor 2004/05. Yn nhymor 2007/08 enillodd y clwb Gynghrair Ynys Môn yn ogystal â dod yn ail yng Nghwpan Elias. Yn sgil ennill cynghrair Môn, gwnaeth y clwb ennill dyrchafiad i Gynghrair Gwynedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.