Byddin Weriniaethol Iwerddon (1916–22)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffurfiwyd Byddin Weriniaethol Iwerddon (1916–22) (neu Fyddin Gweriniaeth Iwerddon) (Gwyddeleg: ''Óglaigh na hÉireann''[1]; Saesneg: Irish Republican Army neu IRA). Fe'i ffurfiwyd allan o'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig (neu'r Irish Volunteers) a sefydlwyd ar 25 Tachwedd 1913. Yn Ebrill 1916 fe lansiwyd Gwrthryfel y Pasg gan y Gwirfoddolwyr.
Adnabyddir Byddin Weriniaethol Iwerddon fel arfer gan y blaenllythrennau Saesneg IRA sef 'the Irish Republican Army'. Roeddent yn cyfrif eu hunain yn fyddin swyddogol Gweriniaeth Iwerddon a sefydlwyd yn 1916 ac yn swyddogol gan y Dáil yn Ionawr 1919. Hwy a ymladdodd Ryfel Annibyniaeth Iwerddon yn erbyn lluoedd arfog y llywodraeth Brydeinig rhwng 1919 a 1921.
Eu harweinydd cyntaf oedd y pencadfridog Michael Collins a garcharwyd am sbel yn Fron-goch ger y Bala. Dywed rhai mai yno, yn y carchar, y lluniwyd y Fyddin Weriniaethol mewn gwirionedd.
Mae rhai'n gwahaniaethu rhwng y Fyddin Weriniaethol cynnar hwn a Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon, (y Provisional IRA) diweddarach. Ond dywed y gweriniaethwr, wrth gwrs, mai yr un grŵp oeddent o'r cychwyn un.