From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwaith llenyddol, dramatig, neu gerddorol a greir gyda'r bwriad o ddifyrru ac achosi chwerthin ydy bwrlésg. Gwneir hyn drwy ddychanu arddull neu anian gweithiau difrifol.[1] Daw'r gair o'r Eidaleg burlesco, sy'n tarddu o'r gair Eidaleg burla – jôc, gwawd neu watwar.
Enghraifft o'r canlynol | genre comedi |
---|---|
Math | comedi |
Rhagflaenwyd gan | Vaudeville |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
O ran ystyr, mae'r term bwrlésg yn gorgyffwrdd â dychan, parodi a gwawdlun ac yn ei ystyr theatraidd, gyda'r strafagansa a welwyd yn ystod y cyfnod Fictorianaidd.[2] Mae'r enw burlesque wedi cael ei ddefnyddio yn Saesneg mewn cyd-destun llenyddol a theatraidd ers diwedd y 17g. Wrth edrych yn ôl, mae'r enw wedi cael ei ddefnyddiuo ar gyfer gweithiau Chaucer a Shakespeare ac i'r clasuron Groegaidd-Rufeinig.[3] Mae enghreifftiau cyferbyniol o bwrlésg llenyddol yn cynnwys The Rape of the Lock gan Alexander Pope a Hudibras gan Samuel Butler. Esiampl o fwrlésg cerddorol ydy Burleske for piano and orchestra (1890) gan Richard Strauss. Mae enghreifftiau o theatr bwrlésg yn cynnwys Robert the Devil gan W. S. Gilbert a sioeau A. C. Tor – Meyer Lutz fel Ruy Blas and the Blasé Roué.
Mae defnydd mwy diweddar o'r term, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau yn cyfeirio at fformat sioe amrywiol. Roedd rhain yn arbennig o boblogaidd rhwng y 1860au a'r 1940au, yn aml mewn clybiau cabaret, yn ogystal â theatrau, ac yn aml roeddent yn cynnwys stripio coch. Ceisiodd rai o ffilmiau Hollywood i ailgreu awyrgylch y perfformiadau hyn mewn ffilmiau rhwng y 1930au a'r 1960au, yn cynnwys Cabaret ac All That Jazz yn 1979. Gwelwyd twf mawr yn niddordeb pobl yn y fformat hwn ers y 1990au.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.