Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gofal a lles iechyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ardaloedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae ei bencadlys wedi'i leoli ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin. Fe’i sefydlwyd ar 1 Hydref 2009 ar ôl uno Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion a Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin. Ffurfiwyd hen Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda ar 1 Ebrill 2008 gan ddisodli Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin, Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro a Derwen.
Enghraifft o'r canlynol | byrddau Iechyd Cymru |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Hydref 2009 |
Isgwmni/au | Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Ysbyty Cyffredinol Y Llwyn Helyg |
Pencadlys | Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Cymru, Hwlffordd |
Gwefan | https://hduhb.nhs.wales/ |
Fe'i henwir ar ôl y Brenin Hywel Dda.
Mae'r GIG yn cynnal pedwar prif safleodd iechyd ysbyty sef:
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth;
- Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Caerfyrddin;
- Ysbyty Llwyn Helyg, Hwlffordd;
- Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli.
- Gwefan swyddogol
- Fideo gyflwyno i ddarpar weithwyr am Fwrdd Hywel Dda ar sianel Youtube Hywel Dda (Cymraeg a Saesneg)
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.