![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/82/Angarsky_Pass_in_Crimea.jpg/640px-Angarsky_Pass_in_Crimea.jpg&w=640&q=50)
Bwlch Angarskyi
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bwlch ym Mynyddoedd Crimea, ar orynys Crimea yng Gweriniaeth Crimea, Rwsia, yw Bwlch Angarskyi (Wcreineg, Ангарський перевал; Rwseg, Ангарский перевал; Tartareg Crimea, Anğara boğazı). Dyma'r pwynt ucaf ar draffordd Simferopol-Alushta, 752m i fyny. Mae'n cymryd ei enw o Afon Angara, un o ledneintiau Afon Salhir.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | bwlch ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Rwsia ![]() |
Uwch y môr | 752 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 44.7583°N 34.3408°E ![]() |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Crimea ![]() |
![]() | |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/5/5f/Angarskyi_Pass.jpg/320px-Angarskyi_Pass.jpg)
Dim ond llwybr traed a oedd yno yn yr Oesoedd Canol. Agorwyd llwybr post gan y Rwsiaaid yn 1824-26. Gwellhawyd y ffordd ddwywaith, yn 1935 a 1959.
Mae Bwlch Angarskyi yn ganolfan gwyliau gaeaf boblogaidd yn Crimea ac eiff llawer o bobl yno i sgïo.