bryngaer ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Bryngaer Llanymynech a'i arwynebedd o 57 hectar[1] yn un o fryngaerau mwyaf gwledydd Prydain ac yn dyddio'n ôl i Oes yr Haearn neu o bosibl i gyfnod cynharach Oes yr Efydd. Mae wedi'i leoli ar gopa Bryn Llanymynech ar Glawdd Offa ger bentref Llanymynech, cymuned Carreghwfa, Powys; cyfeiriad grid SJ26502215 6 milltir i'r de-orllewin o Groesoswallt. Mae'n debygol mai dyma fryngaer mwyaf Cymru.
Mae cloddio archaeolegol yn 2002 gan Owen yn dangos fod yr anheddau y tu mewn i'r gaer yn dyddio'n ôl i'r 4g C.C.[2]
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG030.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5]
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.