Brooke Shields
actores / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores a model Americanaidd yw Brooke Christa Shields (ganwyd 31 Mai 1965). Dechreuodd fodelu pan oedd yn blentyn ac enillodd glod beirniaid ffilm pan oedd yn ddim ond 12 oed am ei rôl arweiniol yn ffilm Louis Malle, Pretty Baby (1978), lle chwaraeodd ran putain yn New Orleans ar ddechrau'r 20g. Daeth Shields i enwogrwydd byd-eang yn y rôl yma, a pharhaodd i fodelu ac actio drwy ei harddegau a serennodd mewn sawl drama yn yr 1980au, gan gynnwys The Blue Lagoon (1980), ac Endless Love (1981) Franco Zeffirelli .
Brooke Shields | |
---|---|
Ganwyd | Brooke Christa Camille Shields 31 Mai 1965 Manhattan |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, model, actor llwyfan, awdur plant, ysgrifennwr, cyfarwyddwr ffilm |
Taldra | 6 troedfedd |
Tad | Francis Alexander Shields |
Mam | Teri Shields |
Priod | Andre Agassi, Chris Henchy |
Perthnasau | Meryl Streep |
Gwobr/au | Gwobr Arbennig 'Theatre World', Gwobr Golden Raspberry i'r Actores Wrth Gefn Waethaf, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, Golden Raspberry Award for Worst Supporting Actress |
Gwefan | https://brookeshields.komi.io |
Yn 1983, gohiriodd Shields ei gyrfa fel model ac actores i fynd i Brifysgol Princeton, lle graddiodd gyda gradd baglor mewn Ieithoedd Rhamant. Yn y 1990au, dychwelodd Shields i'r byd actio ac ymddangos mewn mân rolau mewn amryw o ffilmiau. Serenodd hefyd yn sitcom NBC Suddenly Susan (1996–2000), a derbyniodd ddau enwebiad Golden Globe am ei gwaith, ac yna Lipstick Jungle (2008-2009). Yn 2017, dychwelodd Shields at yr NBC mewn rôl fawr yn Law & Order: Special Victims Unit yn 19eg tymor y sioe. Er 2014, mae Shields wedi lleisio Beverly Goodman yn y gyfres animeiddiedig Mr Pickles a'i spinoff Momma Named Me Sheriff.