![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/42/Brown_Willy.jpg/640px-Brown_Willy.jpg&w=640&q=50)
Bronn Wenneli
bryn yng Nghernyw, gwledydd Prydain / From Wikipedia, the free encyclopedia
Bryn ar rosdir Gwaun Bodmin, Cernyw, De-orllewin Lloegr, yw Bronn Wenneli (y Gernyweg am 'fryn y gwenoliaid [1] neu 'Bronn Ewhella' (sef 'bryn uchaf'), er bod yr ieithydd Craig Weatherhill yn credu mai Bron Wenneli yw'r ffurf wreiddiol, sef yn Gymraeg: "Bron y Gwenoliaid".[2] Yn gorwedd 420 m (1,378 tr) uwch lefel y môr, Bron Wenneli yw pwynt uchaf Gwaun Bodmin a Chernyw gyfan. Yr enw dirmygus, Saesneg yw ''Brown Willy''.
![]() | |
Math | bryn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Gwaun Bodmin ![]() |
Sir | Cernyw ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 420 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 50.589708°N 4.603639°W ![]() |
Cod OS | SX158799 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 314 metr ![]() |
Rhiant gopa | High Willhays ![]() |
![]() | |
Saif y mynydd 2.5 milltir (4 km) i'r gogledd-orllewin o Bolventor a 4 mile (6 km) i'r de-ddwyrain o Reskammel (Saes: Camelford). Fel pob mynydd, mae ei siap yn newid, yn ddibynnol ar safle'r gwyliwr; yma fodd bynnag, mae siap y mynydd yn wahanol iawn. O'r gogledd, gall edrych fel torth, o fan arall mae'n edrych fel crib hir gyda sawl copa.[3]