From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur, comediwr a chynhyrchydd o Iwerddon yw Brendan O'Carroll (g. 15 Medi 1955) a adnabyddir yn bennaf am ei waith Mrs Brown's Boys a sgwennir ganddo; ef hefyd sy'n actio'r brif ran, sef Mrs Agnes Brown.[1]
Brendan O'Carroll | |
---|---|
Ganwyd | 15 Medi 1955 Finglas |
Man preswyl | Davenport |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Galwedigaeth | actor, digrifwr, nofelydd, llenor, actor llwyfan, actor teledu |
Mam | Maureen O'Carroll |
Priod | Jennifer Gibney |
Plant | Fiona O'Carroll, Danny O'Carroll |
Gwobr/au | People of the Year Awards |
Ganwyd Brendan O'Carroll yn Finglas, Dulyn, yr ieuengaf o 11 plentyn.[2] Roedd ei fam, Maureen O'Carroll, yn Teachta Dála (Aelod Seneddol) yn y Dáil Éireann ar ran Plaid Lafur yr Alban. Saer oedd ei dad, Gerald. Gadawodd Brendan yr ysgol yn 12 oed ac aeth i weithio fel gweinydd mewn tŷ bwyta, dyn llaeth ayb.[3]
Priododd Brendan O'Carroll Doreen yn from 1977, hyd at 1999. Priododd Jennifer Gibney yn 2005. Mae ganddo bedwar o blant: Brendan (bu farw), Danny, Fiona ac Eric. Bu farw mab hynaf Brendan, sef Brendan, o spina bifida pan oedd ychydig ddyddiau oed.
Roedd taid Brendan, ar ochr ei dad, yn aelod o Weriniaethwyr Iwerddon, ac fe'i saethwyd yn farw ar 16 Hydref 1920 yn ei gartref yn nulyn. Roedd dau o'i fechgyn yn aelodau o Fyddin Weriniaethol Iwerddon.[4][5]
Yn 2010 cyhoeddodd Brendan O'Carroll bedair DVD, yn dilyn ei ymddangosoad ar The Late Late Show: How's your Raspberry Ripple, How's your Jolly Roger, How's your Snowballs a How's your Wibbly Wobbly Wonder.[6][7]
Ysgrifennodd y ffilm Sparrow's Trap gyda Stephen Rea yn chwarae'r brif ran; ond aeth i drafferthion ariannol hanner ffordd drwy'r ffilmio.[7] Cyhoeddodd Brendan ei fod yn fethdalwr.[8]
Yn Chwefror 2013 cyflwynodd gwis ar RTÉ One gyda Gerry Browne.[9][10]
Rhyddhawyd Mrs. Brown's Boys yn wreiddiol ar RTÉ 2fm, sef gorsaf radio Gwyddelig, yn 1992, ac yna fel cyfres o lyfrau, gan Brendan O'Carroll yng nghanol y 1990au.[11][12] Teitlau'r llyfrau unigol oedd: The Mammy, The Chisellers, The Granny, a The Young Wan, ac fe'u cyhoeddwyd yn Iwerddon cyn iddynt gael eu cyhoeddi yng ngwledydd Prydain.[13]
Blwyddyn | Teitl | Cymeriad |
---|---|---|
1996 | The Van | Weslie |
1999 | Agnes Browne | Seamus the Drunk |
2014 | Mrs Brown's Boys D'Movie | Agnes Brown and Mr. Wang |
2016/17 | Mrs. Brown's Boys D'Movie 2 | Agnes Brown |
Blwyddyn | Teitl | Rôl |
---|---|---|
2004 | Max and Paddy's Road to Nowhere | Gypsy Joe |
2011–present | Mrs Brown's Boys | Agnes Brown |
2013 | The Security Men | Jimmy |
2015 | Mrs Brown's Boys: The Animated Series
Agnes Brown | |
2016–present | The Course | Joe Daly |
Blwyddyn | Teitl | Rôl |
---|---|---|
1999 | Mrs Brown's Last Wedding | Agnes Brown |
2002, 2012, 2014 | Mrs Brown Rides Again | |
2002, 2011–12 | Good Mourning Mrs Brown | |
2007, 2013 | For The Love of Mrs Brown | |
2009, 2015 | How Now Mrs Brown Cow |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.