![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/05/Biology-0001.jpg/640px-Biology-0001.jpg&w=640&q=50)
Bywydeg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bywydeg (weithiau: bioleg) yw'r maes gwyddonol sy'n ymdrin â bywyd ac organebau byw. Mae'n cynnwys astudiaethau ar sut mae organebau yn gweithio, datblygu ac esblygu
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | cangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd, pwnc gradd ![]() |
---|---|
Math | gwyddoniaeth naturiol ![]() |
Yn cynnwys | morffoleg, ecoleg, botaneg, swoleg, archaeobiology, Anatomeg, Mycoleg, Geneteg, biology of colour, bioleg cell, evolutionary biology, computational biology, Neurobiology, microbioleg, biotechnoleg, Biocemeg, Biofiseg ![]() |
![]() |
Mae bywydeg yn ymdrin ag ystod eang o feysydd academaidd sy'n edrych ar bob rhan o natur. Yn draddodiadol, mae'r pwnc yn cael ei rannu'n is-feysydd yn ôl grŵp tacsonomaidd – er enghraifft, mae botanegwyr yn astudio planhigion, sŵolegwyr yn astudio anifeiliaid, mycolegwyr yn astudio ffyngau a meicrofiolegwyr yn astudio bacteria. Mae rhannu bywydeg yn ôl trefn fiolegol yn ffordd fwy cyfoes o wahaniaethu meysydd – er enghraifft, drwy edrych ar foleciwlau a chelloedd, organebau cyfan a phoblogaethau. Gellir hefyd rhannu bywydeg yn ôl dull: gwaith maes, bioleg damcaniaethol, bioffiseg, paleontoleg, ac ati.