Bergerac (Dordogne)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn département Dordogne a région Aquitaine yn Ffrainc yw Bergerac (Occitaneg: Brageirac). Saif ar afon Dordogne. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 27,716, gyda 58,991 yn yr ardal ddinesig.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 26,323 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Jonathan Prioleaud ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Faenza, Hohen Neuendorf ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dordogne, arrondissement of Bergerac ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 56.1 km² ![]() |
Uwch y môr | 29 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Dordogne ![]() |
Yn ffinio gyda | Eyraud-Crempse-Maurens, Monbazillac, Colombier, Cours-de-Pile, Creysse, Ginestet, Lembras, Saint-Laurent-des-Vignes, Prigonrieux, Saint-Nexans ![]() |
Cyfesurynnau | 44.8511°N 0.4819°E ![]() |
Cod post | 24100 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Bergerac ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Jonathan Prioleaud ![]() |
![]() | |
Cau
Bu ymladd yma yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr. Cipiwyd y ddinas gan Iarll Derby dros y Saeson yn 1345, ar ddechrau'r rhyfel. Cipiwyd y ddinas gan fyddin Ffrengig, yn cynnwys Owain Lawgoch yn 1377 wedi gwarchae. Yn ddiweddarach, roedd yn ganolfan i'r huguenotiaid. Heddiw, mae'r ardal yn fwyaf adnabyddus am ei gwin enwog.
Ceir cerflun yma i Cyrano de Bergerac, ond nid oes tystiolaeth fod ganddo gysylltiad a Bergerac, er gwaethaf ei enw.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4d/Place_pelissiere.jpg/640px-Place_pelissiere.jpg)