![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9d/Ben_Stiller_May_2019.jpg/640px-Ben_Stiller_May_2019.jpg&w=640&q=50)
Ben Stiller
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Efrog Newydd yn 1965 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Benjamin Edward "Ben" Stiller (ganed 30 Tachwedd 1965) yn actor, digrifwr, cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau Americanaidd. Ei rieni yw'r digrifwyr a'r actorion Jerry Stiller a Anne Meara.
Ben Stiller | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Ben Stiller ![]() |
Ganwyd | Benjamin Edward Meara Stiller ![]() 30 Tachwedd 1965 ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, actor, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor llais, ysgrifennwr, actor cymeriad, digrifwr, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, Trekkie ![]() |
Swydd | llysgennad ewyllus da ![]() |
Adnabyddus am | Madagascar, Night at the Museum ![]() |
Prif ddylanwad | George Carlin, Steve Martin, Bill Cosby, Dick Gregory, Robin Williams ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd ![]() |
Tad | Jerry Stiller ![]() |
Mam | Anne Meara ![]() |
Priod | Christine Taylor ![]() |
Plant | Quinn Dempsey Stiller, Ella Stiller ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Emmy, Gwobr Deledu MTV i'r Dyn Cas Gorau ![]() |
Dechreuodd Stiller ei yrfa actio yn perfformio dramâu, ond tra'n gwneud hynny ysgrifennodd nifer o raglenni dogfen ffug, a chafodd gynnig dwy sioe i'w hun, gyda'r ddwy sioe yn dwyn yr enw The Ben Stiller Show. Dechreuodd actio mewn ffilmiau, a chyfarwyddodd am y tro cyntaf gyda Reality Bites. Yn ystod ei yrfa mae ef wedi ysgrifennu, actio mewn, cyfarwyddo a/neu chynhyrchu dros 50 ffilm yn cynnwys Heavyweights, There's Something About Mary, Meet the Parents, Zoolander, Dodgeball, Tropic Thunder and Greenberg. Yn ogystal â hyn, mae ef wedi gwneud nifer o ymddangosiadau cameo mewn fideos cerddorol, sioeau teledu a ffilmiau.