Ben Arous (talaith)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Talaith yng ngogledd Tiwnisia yw talaith Ben Arous. Mae'n gorwedd i'r de-ddwyrain o ddinas Tiwnis, prifddinas y wlad, gan ffinio â thalaith Zaghouan i'r de a Cap Bon i'r dwyrain. Ei phrifddinas yw Ben Arous, un o faesdrefi Tiwnis, ar gwr gorllewinol y dalaith, sy'n cael ei chyfrif gan amlaf yn rhan o ardal Tiwnis Fwyaf.
Math | Taleithiau Tiwnisia |
---|---|
Prifddinas | Ben Arous |
Poblogaeth | 632,842 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 761 km² |
Cyfesurynnau | 36.74722°N 10.33333°E |
TN-13 | |
Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn ardal dinas Ben Arous ei hun neu ar yr arfordir lle ceir sawl tref ar lan Gwlff Tiwnis, yn cynnwys Er Zahra, Hammam Lif a Borj El Cedra; mae'r trefi glan môr hyn yn gyrchfan poblogaidd gan drigolion Tiwnis, yn enwedig ar y penwythnos. Ceir traethau braf a nifer o fwytai ond does dim datblygiadau ar gyfer twristiaeth ryngwladol yno. Dominyddir y dirwedd gan fynydd Bou Kornine (576 m), sy'n rhan o gadwyn fawr Dorsal Tiwnisia.
Yn yr wythdegau lleolwyd pencadlys y PLO yn Ben Arous, ar gyrion Hammam Lif.
Rhed y rheilffordd sy'n cysylltu Tiwnis a Sfax a thaleithiau de Tiwnisia trwy'r dalaith. Y brif ffordd yw'r GN1, traffordd fwyaf Tiwnisia.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.