![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a6/Wikibelfast1.jpg/640px-Wikibelfast1.jpg&w=640&q=50)
Belffast
dinas yn Iwerddon / From Wikipedia, the free encyclopedia
Belffast (Gwyddeleg: Béal Feirste;[1] Saesneg: Belfast) yw dinas fwyaf a phrifddinas Gogledd Iwerddon. Mae dros hanner miliwn o bobol yn byw yn ardal Belffast. Mae'n borthladd ar lannau Afon Lagan lle mae'r afon honno'n llifo i Lough Belffast, ar y ffin rhwng Swydd Antrim a Swydd Down. Mae'n gartref i iard longau Harland and Wolfe ac yn brif ganolfan diwydiannol y dalaith. Ym Melffast ceir prif adeiladau gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, gan gynnwys Neuadd Dinas Belffast (1906) ac Adeilad y Senedd (Stormont) (1932). Rhoddwyd ei siarter i Brifysgol y Frenhines ym 1909.
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Pro Tanto Quid Retribuamus? ![]() |
---|---|
Math | dinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf ![]() |
Enwyd ar ôl | Afon Farset ![]() |
Poblogaeth | 345,006 ![]() |
Cylchfa amser | UTC±00:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Bonn, Hefei, Guadalajara ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Belffast ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 114.995472 km² ![]() |
Uwch y môr | 3 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 54.5964°N 5.93°W ![]() |
![]() | |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ae/Belfast_Queen_University.jpg/640px-Belfast_Queen_University.jpg)
Am flynyddoedd roedd yr enw 'Belffast' bron yn gyfystyr â 'Helyntion Gogledd Iwerddon', gyda'r ddinas a'i chymuned wedi'u rhannu ar linellau ethnig a chrefyddol. Lladdwyd rhai cannoedd o bobl ar ei strydoedd rhwng dechrau'r 1970au a'r 1990au.