![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3e/Flag_of_New_Zealand.svg/langcy-640px-Flag_of_New_Zealand.svg.png&w=640&q=50)
Baner Seland Newydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae gan faner Seland Newydd Jac yr Undeb yn y canton (sy'n cofio cysylltiadau trefedigaethol y wlad â Phrydain) a phedair seren goch gyda borderi gwynion – i gynrychioli'r cytser Crux (y Groes Ddeheuol) fel mae'n ymddangos o Seland Newydd – ar faes glas. Mae'r sêr i gyd yn amrywio tamaid bach mewn maint, a dim ond pedair sy'n ymddangos (yn lle pump fel sydd yn y cytser). Cafodd y faner ei dylunio yn 1869 a'i mabwysiadu ar 12 Mehefin, 1902. Dewisiwyd baner gyntaf y wlad yn 1834 pan benderfynodd gynulliad o benaethiaid Maorïaidd ar faner gyda Chroes San Siôr a chroes arall ar y canton o bedair seren ar faes glas.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3e/Flag_of_New_Zealand.svg/640px-Flag_of_New_Zealand.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e8/FIAV_111010.svg/23px-FIAV_111010.svg.png)