Baner Sant Vincent a'r Grenadines

baner From Wikipedia, the free encyclopedia

Baner Sant Vincent a'r Grenadines

Mabwysiadwyd baner Saint Vincent a'r Grenadines ar 21 Hydref 1985. Mae'r genedl wedi ei lleol yn y Caribî a bu'r ynysoedd yn drefedigaeth Brydeinig a cafwyd dau newid i'r faner fel gwlad annibynnol cyn yr un cyfredol a fabwysiadwyd ym mis Hydref 1985.

Thumb
Baner Saint Vincent a'r Grenadines. Cymesuredd, 7:11
Thumb
Baner Prif Lywodraethwr Saint Vincent a'r Grenadines

Dyluniad

Mae'n faner trilliw fertigol o aur, glas (lled dwbl), a gwyrdd gyda thair diamwnt gwyrdd wedi'i drefnu yn y patrwm V yn y band aur. Mae'r tair diamwnt yn cynrychioli'r Ynysoedd Grenadîn sy'n dod o dan lywodraeth Saint Vincent. Mae'r diemwntau hyn hefyd yn cofio llysenw Sant Vincent fel "gemau'r Antilles". Y cymuseredd yw 7:11 neu 2:3.

Mae glas yn cynrychioli'r awyr trofannol a'r dyfroedd grisial, y melyn yn sefyll am y tywod Grenadine euraidd, ac mae gwyrdd yn sefyll am llystyfiant ysblennydd yr ynysoedd. Mae'r diamwntiau wedi'u gosod yn isel ar y band melyn, gan gofio lleoliad y genedl Saint Vincent a'r Grenadines yn yr rhes-ynysoedd yr Antilles ym Môr y Caribî.

Roedd gan y baneri blaenorol ddeilen ffrwyth bara (Artocarpus altilis) wedi ei lleoli lle mae'r deiamwntiau yn awr. Ar y ddeilen roedd arfbais Sant Vincent a'r Grenadiniaid. Roedd hefyd ffin wen rhwng y strepen las a melyn a melyn a gwyrdd. Gwaethpwyd hynny ar sail cyngor gan y College of Arms. Dydy'r ffin wen ddim yn bodoli ar y faner gyfredol. Penderfynwyd hefyd lledaenu'r golofn ganol ar ddyluniad newydd 21 Hydref 1985 pan gafwy wared ar yr symbol ffrwyth bara hefyd a rhoi'r tair deiamwnt steiliedig yn eu lle.[1]

Baneri Hanesyddol

Dolenni

Cyfeiriadau

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.