![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2d/Peninsula_Vald%25C3%25A9s_STS-68.jpg/640px-Peninsula_Vald%25C3%25A9s_STS-68.jpg&w=640&q=50)
Bae Newydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bae yn Nhalaith Chubut yn yr Ariannin yw Bae Newydd (Sbaeneg: Golfo Nuevo. Ffurfir y bae gan y Península Valdés ar un ochr a Punta Ninfas ar yr ochr arall. Mae tua 650 milltir (1,046 km) i'r de-orllewin o Buenos Aires. Y dref fwyaf ar y bae yw Porth Madryn.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | bight ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Chubut ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 42.7°S 64.5°W ![]() |
![]() | |
Cau
Yn niwedd 1862 aeth Capten Love Jones-Parry a Lewis Jones i Batagonia i weld a oedd yn addas ar gyfer ymfudwyr Cymreig. Cyraeddasant mewn llong fechan o’r enw "Candelaria", a gyrrwyd hwy gan storm i'r bae, ac enwyd y porthladd naturiol yn "Borth Madryn" ganddynt, ar ôl cartref Jones-Parry. Yma y glaniodd yr ymfudwyr Cymreig cyntaf yn 1865.
Rhwng mis Mai a mis Rhagfyr, mae morfilod yn ymgasglu yma i fagu, ac yn atyniad pwysig i dwristiaid.