![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f5/B%25C3%25A9jaSkyline.jpg/640px-B%25C3%25A9jaSkyline.jpg&w=640&q=50)
Béja
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Béja (Arabeg: باجة) yn ddinas yng ngogledd-orllewin Tiwnisia ac yn brifddinas y dalaith o'r un enw. Fe'i lleolir 105 km i'r gorllewin o Diwnis, gyda phoblogaeth o 56,677.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | municipality of Tunisia ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 109,299 ![]() |
Gefeilldref/i | Gibellina, Beja ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Béja ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 13.05 km² ![]() |
Uwch y môr | 222 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 36.7256°N 9.1817°E ![]() |
Cod post | 9000 ![]() |
![]() | |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9d/B%C3%A9ja_panorama_2.jpg/640px-B%C3%A9ja_panorama_2.jpg)
Gorwedd Béja yng nghanol un o'r rhanbarthau gwyrddaf a mwyaf ffrwythlon yn y wlad, wrth droed mynyddoedd y Khroumirie ac mewn cwm agored sy'n ymestyniad o ddyffryn mawr afon Medjerda. Mae ei thirwedd yn gymsgfa o ardaloedd coediog a bryniau canolog sy'n codi o wastadiroedd a chymoedd is sy'n cael eu hamaethu ar raddfa helaeth.
Mae'r ddinas ei hun yn eithaf modern. Mae'r rheilffordd yn ei chysylltu â Thiwnis i'r dwyrain a Jendouba ger y ffin ag Algeria i'r gorllewin.