![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f1/Shin-Kori_04790181_%25288505820635%2529.jpg/640px-Shin-Kori_04790181_%25288505820635%2529.jpg&w=640&q=50)
Atomfa
From Wikipedia, the free encyclopedia
Atomfa ydy'r enw sy'n cael ei roi ar yr adeilad lle holltir yr atom (fel arfer wraniwm-235 neu plwtoniwm-239). Ceir adweithydd niwclear ym mhob atomfa, wedi'i amgylchynnu gan ddŵr sy'n cael ei gynhesu gan adwaith cadwyn rheoledig a'r stêm, yn ei dro, yn gyrru tyrbeins.
![]() | |
Math | gorsaf bŵer, nuclear facility ![]() |
---|---|
Yn cynnwys | Adweithydd niwclear, steam turbine, electric generator, Newidydd ![]() |
Cynnyrch | trydan, Gwastraff niwclear ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5e/Trawsfynydd_Nuclear_Power_Plant.jpg/640px-Trawsfynydd_Nuclear_Power_Plant.jpg)
Agorwyd atomfa cyntaf y byd sef Obninsk yn yr Undeb Sofietaidd Atomfa yn 1954 fel arbrawf, ac ar y cychwyn cynhyrchodd tua 5 MW o drydan y flwyddyn. Y cyntaf i wneud hynny'n fasnachol oedd Calder Hall, Windscale, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yn 1956. Fe'i hagorwyd ar 27 Awst 1956 gan greu 50 MWe o drydan ar y cychwyn ac yna 200 MW. Defnyddiai bedwar adweithydd Magnox 50 MWe yr un. Flwyddyn yn ddiweddarach agorwyd yr atomfa gyntaf yn America sef Adweithydd Shippingport ym Mhensylfania yn Rhagfyr 1957).