Astana (tîm seiclo)
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tîm beicio proffesiynol sy'n cystadlu ar Gylchdaith Proffesiynol yr UCI ydy Astana Pro 'Team' (Côd UCI: AST). Lleolir y tîm yng Nghsachstan a chaiff ei noddi gan Samruk-Kazyna, sef clymblaid o gwmniau sy'n eiddo i'r wladwriaeth, ac mae'r tîm yn dwyn enw'r brifddinas, Astana.
Astana Pro Team | ||
Gwybodaeth y Tîm | ||
---|---|---|
Côd UCI | AST | |
Lleoliad | Casachstan | |
Sefydlwyd | 2007 | |
Disgyblaeth(au) | Ffordd | |
Statws | UCI ProTeam | |
Beiciau | Specialized | |
Personél Allweddol | ||
Rheolwr Cyffredinol | Alexander Vinokourov | |
|
Derbyniodd Astana statws UCI ProTeam yn ei flwyddyn gyntaf yn 2007 gyda Marc Biver yn cael ei benodi'n reolwr ar y tîm. Yn ystod Tour de France 2007, methodd arweinydd y tîm, Alexander Vinokourov, brawf cyffuriau arweiniodd at drefnwyr y Tour de France yn gwahodd Astana i dynnu yn ôl o'r ras[1]. Ar ddiwedd y tymor, diswyddwyd Biver a penodwyd cyn reolwr tîm U.S. Postal/Discovery Channel, Johan Bruyneel ar gyfer tymor 2008[2].
Llwyddodd Bruyneel i ddenu enillydd Tour de France 2007, Alberto Contador, i'r tîm. Ond ni chafodd Contador amddiffyn ei goron wedi i drefnwyr y Tour de France wrthod gwahodd Astana i rasio yn y Tour de France yn 2008 oherwydd ymchwiliad Operation Puerto i'r defnydd o gyffuriau gan feicwyr proffesiynol[3].
Ym mis Medi 2008 cyhoeddodd Astana fod Lance Armstrong yn ymuno â'r tîm ar gyfer tymor 2009 ac roedd yn rhan o'r tîm lwyddodd i helpu Alberto Contador i gipio'r Maillot Jaune, ond yn dilyn problemau ariannol a brwydr mewnol rhwng Johan Bruyneel ac Alexander Vinokourov, oedd wedi dychwleyd i'r tîm ar ôl gwaharddiad am ddefnyddio cyffuriau, symudodd Bruyneel i gymryd rôl rheoli Team RadioShack ar gyfer tymor 2010.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.