![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b2/Arnautdaniel1.jpg/640px-Arnautdaniel1.jpg&w=640&q=50)
Arnaut Daniel
cyfansoddwr a aned yn 1150 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Trwbadŵr yn yr iaith Ocsitaneg ar ddiwedd y 12g oedd Arnaut Daniel de Riberac neu Arnaut Danièl. Disgrifir ef gan Dante fel "il miglior fabbro" ("y crefftwr/creawdwr gorau"), tra galwodd Petrarch ef yn gran maestro d'amor ("Feistr Mawr Cariad"). Yn yr 20g roedd Ezra Pound o'r farn mai ef oedd y bardd mwyaf erioed.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Arnaut Daniel | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1150, 1150 ![]() Ribérac ![]() |
Bu farw | c. 1210 ![]() Ribérac ![]() |
Galwedigaeth | Trwbadŵr, bardd, ysgrifennwr, cyfansoddwr ![]() |
Mudiad | cerddoriaeth ganoloesol, troubadoric poetry ![]() |
Cau
Yn ôl un bywgraffiad, ganed Daniel yng nghastell Ribérac yn Périgord i deulu uchelwrol; ond mae ffynonellau eraill yn awgrymu nad oedd yn gyfoethog. Ef oedd dyfeisydd y sestina, cân o chwe pennill o chwe llinell yr un, gyda'r un geiriau mewn trefn wahanol ar ddiwedd pob pennill.
Dim ond deunaw o gerddi'r bardd sydd wedi goroesi; mae pob cerdd namyn un yn ymwneud â serch.