![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5d/Innenhafen_Duisburg.jpg/640px-Innenhafen_Duisburg.jpg&w=640&q=50)
Ardal y Ruhr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cytref fwyaf yr Almaen yw Ardal y Ruhr (Almaeneg: Ruhrgebiet), gyda phoblogaeth o tua 5.3 miliwn o bobl ac arwynebedd o tua 4,425 km2. Fe'i henwir ar ôl Afon Ruhr, un o lednentydd Afon Rhein, sy'n llifo trwyddi. Mae'n cynnwys cyfres o ddinasoedd sydd wedi ymdoddi i mewn i'w gilydd. Cafodd yr ardal ei llunio yn ystod y Chwyldro Diwydiannol yn y 19eg ganrif. Dyw'r Ruhr ddim yn cyfateb i unrhyw uned gweinyddol penodol, felly dyw ffiniau'r ardal ddim wedi'u diffinio'n swyddogol. Y prif ddinasoedd yw Bochum, Dortmund, Duisburg, Essen, Gelsenkirchen, Mülheim an der Ruhr ac Oberhausen. Mae'r holl ardal yn cael ei gweinyddu fel rhan o dalaith Nordrhein-Westfalen.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/97/Ruhr_area-map.png/640px-Ruhr_area-map.png)
Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...
![]() | |
Math | Cytref, ardal fetropolitan, Functional urban area ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Ruhr ![]() |
Poblogaeth | 5,152,152 ![]() |
Cylchfa amser | CET ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Nordrhein-Westfalen ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 4,435 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5°N 7.5°E ![]() |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | 136,000 million € ![]() |
Cau